Fe gynhaliwyd noson lwyddiannus iawn gyda chynulleidfa lawn yn neuadd bentref Clarbeston ar y 4ydd o Chwefror. Mae yna noson o gerddoriaeth roc eto i'w chynnal ar y 13eg o Fai yn neuadd Llanboidy ac yna ar y 11eg o Dachwedd yn Llandysul.
Fe fydd yr 诺yl roc yn Llanfyrnach ar ddydd Sadwrn y 5ed o Awst ac eleni eto fe fydd mynediad i'r 诺yl yn rhad ac am ddim ond gyda chost parcio car yn 拢15 -felly gyda 5 mewn car dim ond 拢3 y pen gan yna annog mwy a mwy o bobl i rhannu ceir a gwneud ein darn i helpu'r amgylchedd. Bydd modd gwersylla o brynhawn dydd Gwener i brynhawn dydd Sul.
Hyfforddiant i wirfoddolwyr
Eleni mae nifer y criw gwirfoddol sydd yn glwm gyda'r 诺yl, sef stiwardiaid, gofalwyr, pwyllgor, crefftwyr a pherfformwyr yn debygol o godi i fod yn dros 140 o wirfoddolwyr. Mae adran trwyddedi gyhoeddus Cyngor Sir Benfro wedi cydnabod llwyddiant cymunedol yr 诺yl dros y blynyddoedd diwethaf ac yn awr drwy gymorth PLANED am gynnal nosweithi hyfforddiant i'r stiwardiaid a'r gwirfoddolwyr. Bydd yr hyfforddiant yn galluogi i'r stiwardiaid i gael tystysgrif mewn stiwardiaeth gymunedol a fydd o gymorth wrth archebu dynion diogelwch i gynnal yr 诺yl.
Felly os oes modd i'r holl gyn stiwardiaid a hefyd unrhyw stiwardiaid newydd i ddod i'r nosweithiau hyfforddiant bydd yr hyfforddiant yn 5 awr dros sesiwn 2 noson, ble bydd dewis naill ai Nos Fawrth y 7ed o Fawrth a Nos Iau y 9ed o Fawrth (7ed yn Ysgol y Preseli a 9ed yn y Clwb Rygbi Crymych) neu Nos Fawrth y 14eg o Fawrth a Nos Iau y 16eg o Fawrth (y ddau noson yma yn y Clwb Rygbi.) Bydd angen i bawb i gadarnhau eu bod yn dod drwy ffonio Mandy Phillips y trefnydd stiwardiaid ar 01994 419697 neu ffonio swyddfa Roc y Garreg Las ar 01239 831876.
Fe fydd pob gwirfoddolwr yn ystod yr 诺yl yn derbyn tocynnau bwyd a diod am y dydd, parcio a gwersylla am ddim, mynediad i'r gofod ac adloniant cefn llwyfan ble na fydd aelodau'r cyhoedd yn medru dod mewn a hefyd fe fydd y gwirfoddolwyr yn derbyn gwybodaeth i'r dyfodol am weithgareddau ychwanegol fel yr hyfforddiant am ddim ar adloniant neuaddau cymunedol ar draws Gorllewin Cymru.
Am rhagor o wybodaeth ymwelwch 芒 www.celticbluerock.org.uk
|