成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Llun cyffredinol o rasiwr ceir Raswr Rosebush!
Gorffennaf 2004
Mae ardal y Preselau yn fagwrfa i yrwyr ceir rasio, ac wedi cynhyrchu sawl pencampwr dros y blynyddoedd - gan gynnwys Alistair Dent o Rosebush.
Ef yw un o'r diweddaraf ar y rhestr honno, gan mai ef yw pencampwr presennol rasio ceir 500cc Prydain, a deilydd Tlws John Parker am y gyrrwr gorau yn ei ddosbarth.

Rasio ceir hanesyddol lan bryniau yw camp Alistair ac mae'n teithio ledled Prydain i rasio ei Hornet JAP gan hyd yn oed gystadlu yn erbyn ei dad!

Dechreuodd rasio ceir 500cc yn 1946, fel ffordd o geisio annog rasio ceir rhatach, drwy ddefnyddio injan beiciau modur 500cc yn lle peiriannau mwy pwerus. Yna, dechreuodd cystadlaethau rhyngwladol Fformiwla 3 yn 1950.

Mae llawer o enwogion y byd rasio wedi defnyddio ceir 500cc gan gynnwys Stirling Moss a Ken Tyrrell, a bellach mae Mudiad Perchnogion y 500 yn hyrwyddo rasio a dringo bryniau i geir hanesyddol a rhai modern.

Mae rasio ceir yng ngwaed Alistair, gan fod ei dad John hefyd yn yrrwr brwd. "R'on i'n cael fy llusgo i ble bynnag oedd e'n mynd!" meddai Alistair. "Cynigodd e i fi yrru ei gar sb芒r ryw bymtheg mlynedd yn 么l, a ddechreues i gystadlu."

Wrth i ddiddordeb Alistair gynyddu, ac wrth iddo brofi llwyddiant wrth rasio fe brynodd ei gar ei hun, sef Hornet JAP a adeiladwyd yn 1948. Er iddo rasio mewn cystadlaethau 4x4 traws gwlad, y ceir 500cc oedd yn apelio fwyaf ato, ac mae ei ymroddiad i rasio a pharatoi ar gyfer rasus wedi talu ar ei ganfed.

"Roedd e'n deimlad da i ennill" Alistair. "Roedd e'n dymor lle casglodd y car bwyntiau'n rheolaidd, a hwnnw enillodd y bencampwriaeth i fi."

Erbynn hyn mae modd rasio lan bryniau yn Sir Benfro hefyd, gyda ras yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Llysyfran. Enillodd Alistair y ras hon eleni, a gorffen gyda'r amser cyflymaf erioed am ddringo rhiw troellog Llysyfran, a hynny o dros ddwy eiliad!

"Roedd e'n deimlad arbennig i ennill y ras 'na" meddai Alistair, "yn enwedig gan ei bod hi'n cario pwyntiau ar gyfer y bencampwriaeth, a gan ei bod yn ras leol i fi."

Mae Alistair wedi cael cryn dipyn o lwyddiant dros y tymor diwetha' ond dyw pethau ddim yn f锚l i gyd bob tro. Unwaith, fe deithiodd i Ddyfnaint ar gyfer penwythnos o rasio lan bryniau, a chael damwain ar y bore cyntaf.

"Wnes i fwrw mewn i'r bancyn ar y bore Sadwrn, a dyna ddiwedd rasio'r dydd i fi, " meddai. "Wnes i niwed i'r suspension blaen ond ffeindies i ddarnau sb芒r yng Nghernyw felly wnes i yrru rhyw militir i gasglu'r darn a'i ffitio fel bod popeth yn barod i rasio erbyn y bore Sul! Des i'n ail hefyd!"

Gyda'r tymor newydd wedi dechrau a'r llwyddiant yn Llysyfran eisioes wedi'i sicrhau, mae Alistair yn gobeithio am fwy o lwyddiant eleni.

"Byddai mwy o'r un peth yn dda!" meddai Alistair gan chwerthin."Dw i'n gobeithio ennill y bencampwriaeth eto a chael llwyddiant yn y bencampwriaeth gwibio hefyd."

Pob lwc i Alistair dros y tymor sydd i ddod a gobeithio y daw mwy o gwpanau a llwyddiant i'r raswr o Rosebush!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy