Trwy ganu 'Moliannwn', yn ddigyfeiliant, i derfynu'r noson yn Neuadd y Frenhines, Arberth, ar nos Wener, Ebrill 20, roedd Gruff Rhys yn talu gwrogaeth i un o gynheiliaid penna'r diwylliant cerddorol poblogaidd Cymraeg.
Byddai'r hynafgwr, Bob Roberts, Tai'r Felin, na ddechreuodd ddiddanu ar hyd a lled Cymru nes ei fod yn ei 60au hwyr, wedi bod wrth ei fodd. Yr un pryd byddai'r artist rhyngwladol ifanc, a dreuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Maenclochog, hefyd yn ymwybodol mai Cymro alltud, Benjamin Thomas o Fethesda, a gyfansoddodd y g芒n werin, 'Moliannwn', yn America, ac alaw Americanaidd, 'The Old Cabin House' a ddewiswyd i'w chanu. Choeliech chi fyth!
Am fod Gruff Rhys bellach wedi amsugno cynifer o arddulliau cerddorol i'w gyfansoddiad, priodol oedd iddo derfynu trwy gydnabod ei wreiddiau cerddorol cynnar. Gwnaeth hynny gyda chymorth llais hudolus Lisa J锚n, hithau o'r Gerlan, ger Bethesda, ac ar adegau ymdebygai ei llais i gyfuniad o leisiau Linda Healey a Heather Jones.
Ond gan amlaf ei llais cyfoethog, hudolus, a hyderus hi ei hun a glywid yn arbennig wrth gyflwyno 'Llongau Caernarfon' a 'Pontypridd', fel aelod o'r gr诺p 9Bach, a gychwynnai'r noson. Cafwyd dehongliadau cofiadwy o'r naill gan Y Gasgen a'r llall gan Edward H Dafis yn y gorffennol ond rhoes Lisa J锚n fywyd o'r newydd i'r geiriau a'r alawon.
Tua'r diwedd y cafwyd dehongliad llawn tynerwch Gruff Rhys o g芒n adnabyddus Meic Stevens, 'Y Brawd Houdini' sy'n cael triniaeth ffwrdd-芒-hi gan amlaf. Ymddengys ei bod yn de rigeur ymhlith artistiaid Cymraeg, sy'n gyfforddus yn perfformio'n rhyngwladol, i ganu'r g芒n hon bellach, yn union fel yr arferid cynnwys golygfa lladd mochyn mewn rhyddiaith Gymraeg yn ddieithriad ar un adeg. Ond mater o dalu gwrogaeth oedd hyn eto.
Ac mae'n rhaid bod cyfansoddiad Gruff, 'Cycle of Violence', gyda'i chynddaredd a'i ffyrnigrwydd cynyddol yn taflu cis tuag at gyfansoddiadau cyfnodau tywyll John Cale, y Cymro o'r Garnant a ymsefydlodd yn Efrog Newydd. Mater o dalu gwrogaeth oedd hyn eto. Mae'r naill a'r llall yn eiconau Cymreig bellach a hir y parhaed hynodrwydd y ddau dywynnu.
Ond medrai Gruff Rhys fod wedi hudo'r gynulleidfa amrywiol o ran oed a chefndir gyda'i gyfansoddiadau ei hun o'r grynoddisg ddiweddara Candylion a'r Atal Genhedlaeth flaenorol. Yn unol 芒'i ddychymyg byw roedd y llwyfan wedi ei lunio ar ffurf ystafell beilot awyren a ninnau'n cael ein gwahodd i fyd hudolus Candylionair o Ficronesia ac yntau'n Comadante Comodo Candylion yn ein tywys ar daith gerddorol.
Cafwyd yr anthemig 'Ni yw y Byd' a'r epig 'Pwdin 糯y' gyda'i naws drofannol ryfeddol yn gymysg 芒 chaneuon llawn melod茂au cryf ac eraill yn ymdebygu i ganu cylch, a hyn i gyd gyda phinsiad hael o'r odrwydd gogleisiol yna sy'n nodweddiadol o gyflwyniadau Gruff Rhys. Roedd y cyfeiriadau at Bwyll Pendefig Dyfed a Maenclochog yn cael eu gwerthfawrogi.
Roedd ei gasgliad o offerynnau a theclynnau y gellir eu defnyddio i greu s诺n a naws cerddorol yn gwneud y noson yn fwy na chyngerdd acwstig pur. Roedd y b卯t yno'n gryf a g诺r sy'n feistr ar ei grefft yn cyffwrdd 芒'r synhwyrau oll gyda chymorth cymar cerddorol ysbrydoledig ym mherson Lisa J锚n.
Pan ddaeth rhawd Ffa Coffi Pawb i ben ar ddechrau'r 1990au, un blinder a boenai'r s卯n Gymraeg ar y pryd oedd y duedd i bob gig gael ei rheoli gan y bar. Dros ddegawd yn ddiweddarach ar 么l profi llwyddiant gyda'r Super Furry Animals, ac ar 么l perfformio ar draws Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau yn rheolaidd, mae'n bosib i artist o faintioli Gruff Rhys gael gwrandawiad teg bellach mewn gigiau cartref. Oedd, roedd y bar yn lled brysur yn Neuadd y Frenhines ond y llwyfan oedd yn rheoli, a'r mwyafrif o'r gynulleidfa yn falch fod yna seddau ar eu cyfer.
Arwydd pellach o'r aeddfedrwydd oedd clywed y datgeinydd yn cyflwyno ei ganeuon, bron yn ddieithriad, yn Gymraeg, a hynny er bod nifer helaeth o'r caneuon yn ganeuon Saesneg. Cynigiai ambell gyfieithiad byrfyfyr nawr ac yn y man. Does dim angen yr agwedd slafaidd 'for the sake of our English friends' mwyach.
Eironi pennaf hynny i mi oedd y ffaith i mi gael y profiad prin hwnnw bellach, yn gynharach yn y dydd, o fasnachwr yn Hwlffordd yn gwrthod derbyn siec wedi'i sgrifennu'n Gymraeg am nad oedd yn ei ddeall. Mynnai ei fod cystal Cymro 芒 mi.
Parod oeddwn i gytuno nad ar sail gallu i sgrifennu siec yn Gymraeg yn unig y mae mesur Cymreictod.
Dylwn fod wedi'i wahodd i gyngerdd Candylionair.
Hefin Wyn
Adolygiad o gig Gruff Rhys yn Aberystwyth
Mwy am Gruff Rhys