成人快手

Llwybr Llaethog

Llwybr Llaethog

Un o'r bandiau mwyaf arloesol a blaengar yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

Aelodau

  • John Griffiths
  • Kevs Ford

Ffurfiwyd Llwybr Llaethog yn 1984 gan John Griffiths a Kevs Ford o ludw y band The Managing Directors.

Er i'r ddau fyw ym Mlaenau Ffestiniog am gyfnod, Llundain oedd cartref y band yn ystod y dyddiau cynnar. Dyma ble recordiwyd eu EP cyntaf, sef Dull Di-drais, oedd yn cynnwys y rap Cymraeg cyntaf erioed, samplau o Ffred Ffransis a Maggie Thatcher, elfennau o dyb reggae a dulliau cut'n'paste nas clywyd mo'u bath yn iaith y nefoedd cyn hyn.

Pan ddigwyddais i daro ar yr EP yma mewn bin bargen am 50c rai blynyddoedd yn ddiweddarach, gwnaeth argraff ddofn arna i. Dwi wedi bod yn ffan enfawr fyth ers hynny.

Does dim gwadu fod Llwybr Llaethog ymhell o flaen eu hamser; ar hyd y blynyddoedd, maen nhw wedi arddel ystod eang o arddulliau ac is-genres - ymhell cyn i unrhyw artist arall Cymraeg feddwl gwneud hynny.

Yn yr 80au roedden nhw'n creu cerddoriaeth house a tecno ac roedd ganddynt senglau 12" ar labeli yn Lloegr a'r Almaen ac albyms dyb ar ROIR, label uchel ei barch yn Efrog Newydd. Erbyn y 90au, roedden nhw'n cynhyrchu traciau drwm a bas; nhw hefyd oedd yr artistiaid cyntaf i wneud digital hardcore a mash-yps yn Gymraeg.

Roedd John Peel yn gefnogwr brwd o'r cychwyn cyntaf, gan chwarae eu recordiau a'u gwahodd i recordio sesiynau yn Maida Vale ar gyfer ei sioe ar 成人快手 Radio 1.

Ers rhai blynddoedd bellach, mae'r ddau yn 么l yng Nghymru, ac yn parhau i ymestyn ar gorff gwreiddiol ac unigryw o waith gan gydweithio gyda rapwyr fel Mr Phormula a chantorion fel Lleuwen Steffan a Geraint Jarman.

Ar ddiwedd 2011 rhyddhaodd y band albwm newydd, Curiad Cariad. Yn Chwefror 2012 dathlodd y band benblwydd arian (25 mlynedd) gyda gig arbennig.

Dyma fand sy'n parhau i wthio ffiniau cerddorol gan gynnig rhywbeth amgenach na'r arfer.

Steffan Cravos

Newyddion

Sesiynau Newydd!

Chwefror 22, 2006

Sesiynau

Llwybr Llaethog

Llwybr Llaethog

10 Mai 2011

Sesiwn fyw Llwybr Llaethog, Steffan Cravos a Rufus Mufasa ar gyfer rhaglen Daniel Glyn.

Llwybr Llaethog

23 Gorffennaf 2010

Sesiwn newydd sbon - 3 can newydd gan Llwybr Llaethog.

Llwybr Llaethog

Mawrth 26 2007

Adolygiadau

Adolygiad CD Ankst

4 Chwefror 2008

Beth yw barn yr adolygwyr am "Radio Crymi Playlist Vol 2"?


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

成人快手 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.