Mae cerddoriaeth yng ngwaed Lleuwen Steffan, gan ei bod yn ferch i'r Cerddor, Steve Eaves ond mae wedi llwyddo i ennill clod diolch i'w thalentau ei hun yn y s卯n Gerddoriaeth Gymraeg.
Yn ferch o Sir F么n, cafodd Lleuwen ei hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol gyda'i dylanwadau cynnar yn cynnwys Billie Holiday ac Ella Fitzgerald.
Rhyddhaodd ei sengl gyntaf, Draw Dros yr Afon yn 17 oed cyn gadael am Central College yn yr UD i astudio Jazz. Pan ddaeth yn 么l i Gymru, ffurfiodd y band, 'Acoustique' gyda Jochen Eisentrout, (piano), ac Owen Evans (bas dwbl). Roedd y band yn llwyddiannus iawn yn chwarae mewn amryw o Wyliau Jazz proffil uchel yn cynnwys Aberhonddu a Cannes.
Yn 2005 cyhoeddodd ei halbwm, Duw a 糯yr/God Only Knows, casgliad o'i dehongliadau jazz o emynau Cymreig, oedd yn llwyddiannus iawn. Yn 2007, gwelir effaith ei gwreiddiau ar ei gwaith gyda chyhoeddiad, Penmon, (ei chartref yn Sir F么n). Y tro hwn, canolbwyntiodd Lleuwen ar lanw a thrai y tirlun Cymreig a sefydlodd ei hun fel cantores jazz o bwys.
Symudodd i Lydaw yn 2009 gan gyhoeddi albwm newydd, Tan oedd yn dangos dylanwad ei chartref newydd ac yn gyfuniad o'r Gymraeg a'r Llydaweg. Cyhoeddwyd yr albwm yn Llydaw gan label Keltia Musique ac yng Nghymru gan label Sain. Yn 2010 roedd ei sengl, Bore Sadwrn yn ran o albwm o ganeuon artistiaid Cymreig amrywiol ar label Rasal, Deud y Deud .
Newyddion
Albym newydd Lleuwen
11 Mehefin 2007
Albym newydd Lleuwen
11 Mehefin 2007
Sesiynau
Lleuwen Steffan
Mehefin 12, 2007
Adolygiadau
Eraill
Gweler Hefyd
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.