成人快手

Steve Eaves

Steve Eaves

Canwr, bardd a chyfansoddwr wedi'i ddylanwadu gan y bl诺s.

Ganed Steve Eaves yn 1952 yn Stoke-on-Trent i deulu o dras Gwyddelig / Cymreig, ond bu'n byw mewn sawl ardal o ogledd Cymru gan dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn ardal Bangor.

Bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn ffatr茂oedd ac ar safleoedd adeiladu cyn mynd i Goleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg. Bu'n ennill bywoliaeth ym maes polisi iaith a chyfieithu, ac mae bellach yn gweithio fel uwch ymgynghorydd i Gwmni Iaith Cyf.

Bu'n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986), sydd ymysg y goreuon yng Nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa. Rhyddhaodd sawl albym gyda'i fand Steve Eaves a'i Driawd (a newidiwyd yn ddiweddarach i Steve Eaves a Rhai Pobl, i adlewyrchu twf yn nifer yr aelodau), a dau aelod cyson o'i fand fu Elwyn Williams a'r Prifardd Iwan Llwyd.

Mae ei albyms cyntaf yn cynnwys Viva La Revolucion Galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984), Cyfalaf a Chyfaddawd (LP, Sain, 1985) Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989) Plant Pobl Eraill (LP, Ankst, 1990), Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990), Croendenau (LP, Ankst, 1992), Y Canol Llonydd Distaw (LP, Ankst, 1996) a Iawn (LP, Sain, 2001).

Yn 2007 rhyddhaodd ei albwm, Moelyci (Sain). Mae'r Bardd o fri, Gerallt Lloyd Owen, yn adrodd darnau o farddoniaeth fel rhan o'r albwm gyda cherddoriaeth Steve Eaves a'i fand yn gyfeiliant teimladwy ac effeithiol i'r geiriau cain. Mae'r albwm yn deyrnged i wraig diweddar Steve Eaves, Si芒n. Mae'r teitl, 'Moelyci' yn cyfeirio at y mynydd lle gwasgarwyd llwch ei wraig.

Ar ddechrau 2011, cyhoeddodd Steve Eaves ei albwm, Ffoaduriaid (Sain.) Enillodd Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau RAP 成人快手 Radio Cymru yn yr un flwyddyn.

Darllenwch rhagor ar wefan 成人快手 Lleol: Gogledd Orllewin

Sesiynau

Steve Eaves

8 Tachwedd 2007

Gwranda ar ganeuon acwstig gan Steve Eaves wedi eu recordio ar gyfer rhaglen Lisa Gwilym

Adolygiadau

Eraill

Jeni Lyn ar C2

Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...


Llyfrnodi gyda:

[an error occurred while processing this directive]

C2

C2 - gigs

Rhestr gigs

Pwy sydd yn chwarae lle a pryd? Rhestr gigs C2

成人快手 Wales Music

Sian Evans

More Music by Welsh artists

Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.