成人快手

Explore the 成人快手
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

成人快手 成人快手page
成人快手 Cymru
成人快手 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

成人快手 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Clawr CD 'Iawn'
Steve Eaves

Ganwyd: 1952 yn Stoke-on-Trent

Addysg: Coleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan


Canwr, bardd a chyfansoddwr wedi'i ddylanwadu gan y bl诺s.

Ganed Steve Eaves yn 1952 yn Stoke-on-Trent i deulu o dras Gwyddelig / Cymreig, ond bu'n byw mewn sawl ardal o ogledd Cymru gan dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn ardal Bangor.

Bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn ffatr茂oedd ac ar safleoedd adeiladu cyn mynd i Goleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, lle graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg. Bu'n ennill bywoliaeth ym maes polisi iaith a chyfieithu, ac mae bellach yn gweithio fel uwch ymgynghorydd i Gwmni Iaith Cyf.

Bu'n weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986), sydd ymysg y goreuon yng Nghyfres Beirdd Answyddogol y Lolfa. Rhyddhaodd sawl albym gyda'i fand Steve Eaves a'i Driawd (a newidiwyd yn ddiweddarach i Steve Eaves a Rhai Pobl, i adlewyrchu twf yn nifer yr aelodau), a dau aelod cyson o'i fand fu Elwyn Williams a'r Prifardd Iwan Llwyd.

Mae ei albyms cyntaf yn cynnwys Viva La Revolucion Galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984), Cyfalaf a Chyfaddawd (LP, Sain, 1985) Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989) Plant Pobl Eraill (LP, Ankst, 1990), Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990), Croendenau (LP, Ankst, 1992), Y Canol Llonydd Distaw (LP, Ankst, 1996) a Iawn (LP, Sain, 2001).

Mae arddull y bl诺s a jazz yn amlwg yn ei ganeuon, a bu cantorion bl诺s megis Muddy Waters, Bo Diddley, Leadbelly a John Lee Hooker yn gryn ddylanwad arno. Nodweddir ei albyms cynnar gan lais cras, egr a oedd yn cyd-fynd 芒 rhai o them芒u cymdeithasol dirdynnol ei ganeuon, megis tlodi dosbarth gweithiol (Wyn Bach Iesu Grist) a sefyllfa'r iaith yn y Gymru gyfoes (Afrikaaners y Gymru Newydd). Serch hynny, roedd cydymdeimlad a dynoliaeth yn pefrio caneuon am freuddwydion a bywydau beunyddiol pobl gyffredin, fel Nos Sadwrn a Traws Cambria. Mae s诺n a swyn geiriau yn bwysig i Steve Eaves, a gellir darllen rhai o eiriau ei ganeuon fel cerddi ynddynt eu hunain.

Ar 么l rhyddhau Y Canol Llonydd Distaw (1996), sy'n gasgliad gwych o ganeuon lleddf, hudolus, gwelwyd ymagwedd fwy arbrofol ar gyfer ei albym ddiweddaraf Iawn (2001). Dyma'r tro cyntaf i'w bartner cerddorol hirdymor, Elwyn Williams, rannu'r clod cerddorol, a cheir ymdrech amlwg i wthio'r cwch ymlaen, gan arbrofi efo strwythur caneuon a synau stiwdio arbrofol, sy'n ymdoddi i roi effaith synhwyrol boddhaus. Serch hynny, mae'r bl诺s yn dal yn bresennol yn Dim Byd Yr Un Fath a Bwrw Glaw.

Erbyn hyn mae ei berfformiadau byw gyda'i fand yn tueddu i gynnwys mwyfwy o ganeuon acwstig sy'n dangos dylanwad ei wreiddiau bl诺s, a hwyrach y bydd hyn i'w glywed ar ei albym nesaf, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Ond beth bynnag fydd y cyfeiriad, gallwch fod yn sicr y bydd gan Steve Eaves rywbeth pwysig i'w ddweud, a hynny mewn ffordd gynnil a chofiadwy.

Shon Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人快手 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy