Yn diferu o ddylanwadau aml ddiwylliannol Caerdydd, Geraint Jarman o bosib yw'r cyfrannwr mwyaf i roc yn yr iaith Gymraeg, gyda chatalog di-guro o ganeuon aruthrol. Tad roc Cymru.
Aelodau
- Geraint Jarman: llais
- Phil Maynard: gitar acwstig a gitar drydan
- Robert "Tich" Gwilym: gitar drydan
- Steve Keely: drymiau
- Neil White: gitar, llais
- R. "Dodo" Wilding: drymiau
- Bethan Meils: ffidil, fiola
- Geraint Watkins: piano
- Lincoln Carr: bass
- Heather Jones: llais
- Peredur ap Gwynedd: gitar
- Lisa Jarman: llais
- Pete Hurley: bas
- Arran Ahmun: drymiau
- Richard Dunn: allweddellau, piano
- Les Morrison: gitar, (1992- yn unig)
Wedi ei eni ym Mangor, symudodd Geraint i Gaerdydd pan yn bedair, lle cafodd brofiad o ddiwylliannau amrywiol trigolion y Riverside yng Nghaerdydd, gan wrando ar eu cerddoriaeth a'u hofferynau.
Esblygodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a gyda Meic Stevens a Heather Jones ffurfiodd Bara Menyn yn nechrau'r 70au, oedd yn hwb allweddol i'r s卯n roc Gymraeg cynnar gyda chaneuon enwog megis Mynd i'r Bala ar y Cwch Banana.
Roedd hi'n 1976 pan ddaeth albwm gyntaf Geraint allan, ac ystyriwyd Gobaith Mawr y Ganrif fel cynnyrch artist oedd am wneud argraff sylweddol ar roc Cymraeg. Eto, anodd fyddai credu yr adeg hynny y byddai'n parhau i gyfansoddi a rhyddhau heb argoel ei fod am stopio ymhell i'r mileniwm newydd. Roedd y drac deitl yn diwn rocaidd hwyliog gwych, "I've Arrived" a Merched Caerdydd yn sbort aruthrol bendigedig, gyda Lawr yn y Ddinas yn rhoi arlliw galluog i'w ddylanwadau reggae cryf.
Yn 1977 rhyddhaodd Tacsi i'r Tywyllwch, a wnaeth argraff yr un mor drawiadol, yn cynnwys traciau megis yr iasol Ambiwlans, y ffynci Dyn Oedd yn Hoffi Pornograffi a'r clasur Bourgeois Roc*. Erbyn hyn roedd gigiau Jarman yn chwedlonol, a nosweithiau gwallgof yn rhannu llwyfan gyda'r Trwynau Coch, Edward H ac eraill yn arferol.
Amhosibl fyddai anwybyddu cyfraniad Tich Gwilym, prif gitarydd y Cynganeddwyr, i'r llwyddiant a'r llewyrch, a byddai crescendo'r noson yn dueddol o orffen gyda'i fersiwn unigol o Hen Wlad Fy Nhadau.
Yn 1978 gwelwyd dyfodiad yr albwm Hen Wlad Fy Nhadau, oedd os rywbeth yn curo ei ymgeision blaenorol gwych - cewri o ganeuon megis Ethiopia Newydd, Instant Pundits, Sgip ar D芒n, Merch T欧 Cyngor a Methu Dal y Pwysa yn cyfrannu at un o albwms y ganrif heb os.
Mewn llai na blwyddyn roedd albwm arall allan, Gwesty Cymru, a roedd y safon yr un mor eithriadol, gyda chaneuon aruthrol megis SOS yn Galw Gari Tryfan, Neb yn Deilwng, Byth yn Mynd i Redeg Bant a Gwesty Cymru yn mynnu'r glust.
Yn parhau 芒'r raddfa ffrwythlon daeth Fflamau'r Ddraig allan yn '80, uchafbwyntiau yn cynnwys yr enwog Rhywbeth Bach, y C诺n Hela iasol a'r dwys bendigedig Cae'r Saeson, a ni fedrir crybwyll hwnnw heb s么n am y gig Twrw Tanllyd cyntaf a gynhaliwyd yng Nghae'r Saeson yn '79 gyda Jarman yn codi'r to.
Yn selio ei statws fel prif artist Cymru gwelwyd traciau arbennig megis y gorffwyll Crogi Llygoden, yr anthem hapus Diwrnod i'r Brenin a'r Patagonia epigol oddi ar Diwrnod i'r Brenin yn 81.
Yn 1983 rhyddhaodd Macsen oedd yn drac sain i ffilm Gareth Wyn Jones o'r un enw, oedd yn cynnwys Siglo ar y Siglen a Cwd, a daeth Enka yn '84, oedd yn brosiect ffilm arall ac yn ddechrau ar ddiddordeb Geraint yn y maes fideo, gyda thraciau gwych megis Nos Da Saunders a Cenhadon Casineb.
O hynny aeth ymlaen i weithio ar y gyfres arloesol a hanfodol Fideo 9 i Criw Byw am bum mlynedd, gan roi stop ar ei gatalog tan 1992 pan recordiwyd Rhiniog ar label Ankst. Gyda s诺n gwahanol a hynod gyfeillgar roedd yn arallgyfeiriad sylweddol a welodd ganlyniadau ffantastig megis Kenny Dalglish, Hei Mr DJ, Llwyth Dyn Diog a mwy. Amhosib fyddai pasio heb roi sylw arbennig i'r emosiynol Strydoedd Cul Pontcanna a'r gwefreiddiol Tracsuit Gwyrdd oedd yn cyfrannu at albwm godidog.
Roedd y safon yr un mor lewyrchus yn Y Ceubal Y Crossbar a'r Quango, oedd yn taro tant gyda thraciau gwych megis Rhedeg Lawr y Tynal Tywyll, Animeiddio Goleudy Mewn Rhyfel, Anifail Brigitte Bardot, gyda Cerys Mathews yn cyfrannu llais cefndir, a'r melys Enillais Hen Gariad.
Gyda dau albwm mor drawiadol ganddo ar ei newydd wedd doedd ganddo ddim mwy i'w brofi, ond gwelwyd yr albwm annisgwyl Eilydd Na Ddefnyddiwyd yn 1998, oedd yn hannu mwy at reggae tywyll, a mewn gwirionedd nid oedd cweit yn cyrraedd uchelfannau Rhiniog a Ceubal, er fod rhaid nodi Asyn Eira ac yn enwedig Ti'n Gwybod Be Ddudodd Marley fel traciau penigamp.
Yn 2002 rhyddhodd EP 惭么谤濒补诲谤辞苍, CD 5 trac, hawdd i wrando arni, oedd yn cynnwys y g芒n 惭么谤濒补诲谤辞苍 - prosiect ar y cyd gyda meistri'r ail-gymysgu Llwybr Llaethog. Yn yr flwyddyn, fe recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr sesiwn arbennig i raglen C2 Radio Cymru welodd Jarman yn arbrofi gyda synnau latino De America ac yn mynd n么l i'w wreiddiau reggae.
Dros y blynyddoedd diweddar, rhyddhawyd casgliad o ganeuon byw Jarman, Yn Fyw-1977-1981 - Jarman ar ei orau - a'r set gynhwysfawr Atgof Fel Angor, sy'n cynnwys 15 CD! Mae hefyd wedi troi ei law at gyflwyno ei rhaglenni ei hun ar C2 Radio Cymru.
Bu 2011 yn flwyddyn brysur i Geraint Jarman. Rhyddhaodd albwm newydd, Brecwast Astronot ar label Ankstmusik, dychwelodd i Radio Cymru gyda'i gyfres gerddoriaeth, 'Jarman' a chyhoeddodd ei gyfrol hunangofiannol, Y Twrw Jarman (Gomer).
Newyddion
Bocs Set Jarman
15 Mai 2008
Mae un o gewri y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru yn paratoi i ryddhau bocs-set o'i ganeuon ar label Sain.
Bocs Set Jarman
15 Mai 2008
Mae un o gewri y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru yn paratoi i ryddhau bocs-set o'i ganeuon ar label Sain.
Albym newydd Sibrydion
07 Mehefin 2007
Adolygiadau
Erthyglau
Rhys Ifans a Howard Marks
23 Mai 2009
Rhys Ifans a Howard Marks yn westeion i Geraint Jarman a Nia Medi ar C2
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r 成人快手
Cysylltiadau Rhyngrwyd
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.