Mae un o gewri y s卯n gerddoriaeth yng Nghymru yn paratoi i ryddhau bocs-set o'i holl ganeuon ar label Sain, a bydd yn glamp o focs gydda dim llai na 15 CD ynddo!
Dros y blynyddoedd mae Geraint Jarman wedi rhyddhau 10 casgliad gyda Sain - a'r gweddill ar label Ankst, ond mae bron yn chwarter canrif ers iddo fod yn stiwdio Sain yn Llandwrog ddiwethaf. Er i'w CD diweddaraf 'M么rladron' gyda'r Cynganeddwyr gael ei ryddhau ar label Sain yn 2002, nid yno recordiwyd y caneuon - a chafodd ychydig o sioc o ddychwelyd yno!
"Dydw i ddim wedi bod yn Sain ers 1984 pan o'n i'n recordio'r cas茅t Enka," meddai brenin y byd reggae Cymraeg. "Mae'r lle'n ffantastig, ac wedi newid yn llwyr . Mae'n safle gr锚t ac yn agored iawn, ac mae 3 stiwdio yno erbyn hyn - dim ond un oedd yno ers talwm!"
Gari Melville sy'n cydlynu'r prosiect arloesol, ac ef hefyd sy'n ysgrifennu'r llyfryn cynhwysfawr. Yn 么l Menna Medi o'r cwmni, "...bydd 15 CD yn rhan o'r pecyn gorffenedig, a enwir yn Atgof fel Angor."
Bydd nifer cyfyngedig o'r bocs-sets yn cael eu rhyddhau, gyda'r pris yn 拢49.99, a bydd yn cael ei lawnsio mewn gig gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni."
"Dyma drysor gan un a gyfrannodd, ac sy'n parhau i gyfrannu, cymaint i fyd adloniant yng Nghymru." - bydd yn sicr yn wych cael holl glasuron y band mewn un casgliad.
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am unrhyw wefan allanol y cysylltir iddi o'r tudalennau yma.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.