Cyn aelod o'r gr诺p Bara Menyn a chantores unigol sy'n dal i berfformio. Derbyniodd wobr Cyfraniad Oes 成人快手 Radio Cymru.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Ganwyd Heather Jones yng Nghaerdydd ym 1950. Tra yn yr ysgol, roedd hi'n aelod o'r gr诺p canu ysgafn Y Meillion. Rhyddhawyd ei record gyntaf, yr EP Caneuon Heather Jones, ym 1968 ar Welsh Teldisc. Blwyddyn yn ddiweddarach rhyddhawyd sengl Ddoi Di i Cambrian, a ffurfiodd Y Bara Menyn gyda'i darpar-诺r Geraint Jarman a Meic Stevens. Rhyddhawyd dwy EP ar Dryw.
Ar 么l i'r gr诺p chwalu rhyddhawyd EP Heather ar label Newyddion Da. Ym 1971 ac 1972 recordiwyd dwy EP ar Sain, gyda'r gr诺p roc James Hogg: Colli Iaith a Cwm Hiraeth. Ym 1972 enillodd C芒n i Gymru gyda Pan Ddaw'r Dydd, c芒n a ysgrifennwyd gan Geraint.
Discograffi
- Mae'r Olwyn Yn Troi (Sain) 1974
- Jiawl (Sain) 1976
- Petalau Yn Y Gwynt (Sain) 1990
- Hwyrnos (Sain) 2000
- Goreuon Heather Jones (Sain) 2004
- Enaid (Sain) 2006
Blwyddyn yn ddiweddarach, ddaeth y cyfle gan Sain i recordio ei halbwm cyntaf, Mae'r Olwyn Yn Troi. Recordiwyd yr albwm dros gyfnod o dri mis yn Stiwdio Rockfield gyda James Hogg. Hon, heb os nac oni bai, yw albwm gorau Heather. Mae'r albwm ar gael yn ei chyfanrwydd ar Goreuon Heather Jones.
Ym 1974 chwaraeodd rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur a llwyfannwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin. Yn yr un flwyddyn recordiodd Young Folk In Worship ar label y 成人快手, sef albwm o ganeuon Cristnogol.
Yn sgil llwyddiant Mae'r Olwyn Yn Troi, ffurfiwyd y gr诺p Neli gyda Catrin Edwards, Helen Bennett a Bethan Miles ond ni recordiwyd unrhyw ganeuon.
Ym 1976 rhyddhawyd Jiawl - casgliad o ganeuon cryf. Mae'n cynnwys teyrnged Heather i Janis Joplin, sef C芒n i Janis. Wedyn ymunodd Heather 芒 gr诺p jazz arbrofol Red Brass. Cantores arall y gr诺p yr un pryd oedd neb llai nag Annie Lennox!
Ym 1982 ffurfiwyd y gr诺p canu gwerin Hin Deg gyda Mike Lease (gynt o'r Hwntws) a Jane Ridout, ond roedd rhaid aros tan 1991 cyn i'r gr诺p rhyddhau Lisa L芒n, ei albwm cyntaf.
Roedd Petalau Yn Y Gwynt (Sain, 1990) yn albwm aeddfed iawn, tipyn mwy canol y ffordd, ond roedd 'na uchafbwyntiau. Mae Hiraeth Bregus yn fersiwn gwych o g芒n Meic Stevens, ac mae'r g芒n serch Rwy'n Cofio Pryd yn hyfryd.
Ym 1991, newidiodd cwrs yn gerddorol, ac ymunodd gyda'r gr诺p r锚f T欧 Gwydr er mwyn recordio'r albwm Effeithiol. Mae'r cas茅t yn cynnwys fersiwn dawns o Colli Iaith.
Recordiwyd Hwyrnos yn 2000 yn Stiwdio Albany, Caerdydd gyda rhai o gerddorion gwerin gorau Cymru: Dave Burns, Danny Kilbride a Stephen Rees ymysg eraill.
Mae Enaid (2006) yn cynnwys Beth Sydd I Mi a sgrifennwyd gan Geraint Jarman. Y g芒n hon enillodd gystadleuaeth y g芒n bop yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd Caerfyrddin i Heather ym 1967. Mae'r albwm hefyd yn cynnwys teyrnged dyner i'r diweddar Tich Gwilym, sef Anthem Tich.
Yn ddiweddar mae Heather wedi bod yn recordio caneuon gyda'r gr诺p electro-pop Clinigol.
Gari Melville
Newyddion
Albym gyntaf 'Clinigol'
Mae'r grwp electro-pop 'Clinigol' newydd ryddhau eu albwm gyntaf, 'Melys'.
Gwobrau RAP 2009 成人快手 Radio Cymru
30 Mawrth 2009
Gwobrau Roc a Phop yn 么l - pwy sydd ar y rhestr fer eleni?
Tregaron - Y Lle i Fod!
18 Ionawr 2006
Sesiynau
Heather Jones
1 Ebrill 2009
Fideo o Heather Jones, enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau RAP 2009, yn recordio sesiwn acwstig.
Heather Jones
Chwefror 20, 2006
Heather Jones
Chwefror 20, 2006
Adolygiadau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.