"Does dim cywilydd gen i ddweud bod y ffilm archif weles i ar y teledu'n ddiweddar o Tich Gwilym yn canu 'Hen Wlad fy Nhadau' ar ei git芒r, wedi codi cryn emosiwn ynof. Os fydden nhw wedi dangos mwy na chwpwl o eiliadau ohono, mi fyddwn wedi cr茂o." (Martin Wilding Davies)
Cymeriad poblogaidd a dylanwadol iawn yn y s卯n gerddoriaeth Gymraeg, bu farw mewn t芒n yn ei gartref yng Nghaerdydd yn Mehefin 2005.
Yn gitarydd o fri, perfformiodd yn aml 芒 Geraint Jarman oedd yn teimlo fod Tich wedi "codi lefel a safon cerddoriaeth yng Nghymru."
Gwelai Heather Jones fel llawer, ei farwolaeth fel "colled mawr".
Gwir enw Tich oedd Robert Gilliam ac roedd yn enwog am ei ddehongliad unigryw o'r anthem genedlaethol ar ei git芒r electrig yn dwyn atgoffion o Hendrix a'i fersiwn yntau o'r 'Star Spangled Banner'.
Mae fersiwn Tich o Hen Wlad Fy Nhadau wedi cael ei ychwanegu i'r albwm 'Welsh Rare Beat' - cryno ddisg 芒 chasgliad o ganeuon roc a recordiwyd ar y label Sain yn y saithdegau.
Fel arwydd o barch tuag at y cawr cerddorol hwn, cynhaliwyd cyngerdd coffa yn Y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd, ym mis Awst 2005. Ymysg y bandiau yn perfformio roedd 'Man' a 'Racing Cars'.
Newyddion
Pesda Roc
Mai 11 2006
Gwobrau Roc a Phop 2006
Chwefror 19 2006
CDs Pesda Roc a Mim Twm
Gorffennaf 7, 2005
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.