Nid gor-ddweud fyddai datgan mai Caryl - fel Lulu, Kylie a Beyonce, dim ond un enw sydd angen - yw seren bop fwya llwyddiannus Cymru erioed.
Yn enedigol o Sir y Fflint ac yn aelod o'r gr诺p harmoni clos Sidan pan yn 14 oed, daeth dawn gyfansoddi Caryl i'r amlwg gyda'r trac Calon, gafodd ei ysgrifennu a'i ganu ganddi hi pan yn aelod o'r supergroup Injaroc yn 1977, a hithau dal ond yn 19 oed.
Wedi graddio o Brifysgol Bangor, ffurfiodd y gr诺p Bando yn hwyr yn 1979, a gyda rhyddhau'r sengl gynta Space Invaders a'r albwm Yr Hwyl Ar Y Mastiau y flwyddyn wedyn dechreuodd teyrnasiad Caryl fel 'Brenhines Pop Cymru'.
Yn y blynyddoedd wedyn, cyfunodd actio, dynwared, a chyflwyno mewn sawl cyfres lwyddiannus ar S4C gyda rhyddhau un albwm arall gan Bando o'r enw Shampw yn 1982, gyda Caryl A'r Band yn dilyn y flwyddyn ganlynol wedi chwalu Bando. Heb os nac oni bai, roedd yr 80au yn perthyn i Caryl.
Gyda chyfnod tawel o ran cerddoriaeth ar ddechrau'r 90au pan trodd ei sylw at fagu'i theulu, daeth yn 么l gyda'r albwm Eiliad yn 1996, a lawnsio ateb Cymru i'r Spice Girls - Eden - y flwyddyn wedyn.
Yn weithgar tu hwnt erioed a gyda thalent cyfansoddi caneuon pop perffaith, mae'i cherddoriaeth wedi creu argraff enfawr ar ddiwylliant poblogaidd Cymraeg ers bron i bedwar degawd.
Mae Caryl Parry Jones yn cyd-gyflwyno rhaglen Dafydd a Caryl bob bore o ddydd llun i ddydd gwener ar 成人快手 Radio Cymru.
Talent unigryw, perfformwraig heb ei ail ac yn ffigwr allweddol yn natblygiad y s卯n gerddorol Gymraeg.
Ian Cottrell
Newyddion
Ydy'r s卯n yn llawn snobs?
Mawrth 23, 2007
Ydy'r s卯n yn llawn snobs?
Mawrth 23, 2007
Anrheg Santes Dwynwen delfrydol!
23 Ionawr 2006
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.