Plentyn siawns MC Sleifar (Steffan Cravos) a G-Man (Gruff Meredith) oedd Tystion, roddodd bom o dan y s卯n hip-hop Gymraeg ifanc yn 1996 a'i chicio "mewn i siap".
Ar 么l rhyddhau nifer o gasetiau gyda'i gilydd, drafftiwyd y cynhyrchydd Curig Huws a'r rapiwr Chef (Gareth Williams) i'r gr诺p i gynhyrchu albwm gynta Tystion, Rhaid I Rywbeth Ddigwydd yn 1997, ddaeth allan ar label Fitamin Un.
Dilynodd dwy albwm a thair EP ar label Ankst rhwng 1998 a 2000, ond erbyn hynny roedd Meredith wedi ffarwelio 芒 Cravos er mwyn sefydlu personoliaeth newydd, sef MC Mabon.
Yn adnabyddus am them芒u gwleidyddol a maniffesto "gallwn ni wneud unrhywbeth" yn rhedeg trwy eu caneuon, daeth Tystion 芒 dos go helaeth o realaeth i'r s卯n Gymraeg, oedd ar y pryd yn diodde o iselder ysbryd yn dilyn colli sawl grwp sefydlog i'r iaith fain.
Gyda'r EP Y Meistri (2001) yn actio fel rhybudd i'r plant newydd ar y bloc - Pep Le Pew, yn bennaf - roedd yn edrych fel petai dyfodol Tystion yn ddiogel, ond gyda chyhoeddi diwedd y grwp ar lwyfan Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 ac un EP ola (M.O.M.Y.F.G.) daeth cyfnod Tystion i ben.
Digon teg yw dweud bod Tystion wedi gosod y sylfaen i'r rhan fwya o hip-hop Cymraeg sydd yn bodoli heddiw.
A chofiwch, does dim 'Y' ar ddechrau enw'r gr诺p. Gwnewch y camgymeriad hwnnw; watchiwch eich cefnau.
Ian Cottrell
Newyddion
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Adolygiadau
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
成人快手 Wales Music
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.