成人快手

Teyrngedau i John Peel

John Peel

Roedd Dydd Iau Hydref 13 yn ddiwrnod arbennig i ddathlu bywyd a gyrfa John Peel a bu nifer o artistiaid a cherddorion Cymru yn hel atgofion am y DJ ar raglen Lisa Gwilym ar C2, Radio Cymru. Cliciwch isod i glywed rhai o'r sgyrsiau:

David R Edwards (Datblygu)

Rhys Mwyn (Anrhefn, Hen Wlad fy Mamau, Mangre)

Andrea Parker (Melys)

Steffan Cravos (Tystion, Sleifar)

Gruff (Texas Radio Band)

Bu John Peel yn cyflwyno ar Radio 1 o 1967 tan y bu farw yn 2004, a thrwy ei yrfa fe gefnogodd gerddoriaeth Gymraeg - o gyfnod a'r Trwynau Coch yn y 70au, i ddyddiau Datblygu a'r Anrhefn yn y 80au ac, yn fwy diweddar, bandiau fel Melys, Tystion a Llwybr Llaethog.

Fel rhan o'r diwrnod gafodd cannoedd eu gigs eu trefnu, yn cynnwys nosweithiau arbennig gyda bandiau ac artistiaid Cymraeg. Bu C2 yn darlledu o Glwb Ifor Bach, Caerdydd gyda Sibrydion, Briwsion a Pwsi Meri Mew Movement a bydd cyfle i glywed mwy o ganeuon byw o'r gig yma ar raglen C2 ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos i ddod.

i weld lluniau o'r gig. Am fwy o wybodaeth am ddiwrnod John Peel, ewch i dudalennau arbennig Radio 1 - .

Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.