Eisteddfod Radio
Unwaith eto daeth rhyfel i ddrysu cynlluniau'r Eisteddfod. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1940, ond ofnai'r Llywodraeth y gallai'r dref fod yn darged i gyrchoedd o'r awyr. 'Roedd yn ardal ddiwydiannol a chanddi'r ffatri arfau fwyaf yn y byd a oedd yn cyflogi 37,000 o bobl erbyn 1941. Ystyriwyd symud yr Eisteddfod i Aberpennar, ond barnai'r Llywodraeth y gallai'r ardal honno hefyd fod yn darged milwrol.
Cysylltodd pwyllgor brys 芒'r 成人快手. Ar yr awyr y clywodd eisteddfodwyr 1940 am y bwriad i ddefnyddio'r dechnoleg newydd i greu Eisteddfod unigryw, un na allai mintai'r Luftwaffe ei bygwth. Meddai Cynan mewn darllediad: ' Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion Cymreig y 成人快手 ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr. T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor a'r 成人快手 i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o raglen Eisteddfod 1940 drwy gyfrwng y radio'.
ymlaen...
|
|
|