 |
 |
1956 - 1966
Wyneb Llwm Y Cwm
Cau
Ar 么l cyfnod gweddol lewyrchus yn hanner cyntaf y pumdegau dan y
Llywodraeth Geidwadol, dechreuodd yr economi wegian unwaith yn rhagor. Dechreuodd y chwareli gau fesl un yn y Gogledd wrth iddyn nhw orfod cystadlu 芒 deunydd toi rhatach o wledydd eraill. Ac wrth i'r chwareli gau, nid diwydiant yn unig a gollwyd, ond diwylliant arbennig br枚ydd y chwareli. Aeth Gwilym R. Tilsley 芒 ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen.
ymlaen...
|
|

|
'Roedd y pyllau glo yn y De yn gorfod wynebu yr un math o her. Rhydwen Willams a roddodd inni bortread o'r cymunedau glofaol yn ei bryddest fuddugol 'Ffynhonnau' yn Eisteddfod Abertawe ym 1964. 'Roedd tirlun Cymru yn ogystal ag economi a diwylliant y wlad yn newid, a gwlad y creithiau, nid gwlad y gweithiau, oedd hi bellach. Diffeithdra a diweithdra a nodweddai rannau helaeth o Gymru bellach. Dyna oedd y thema ym mhryddest fuddugol Tom Huws, 'Cadwyni', yn Eisteddfod Caernarfon 1959:
Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
Stelcian, stilio a sgwrs,
Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
Loetran o gwmpas T^y'r Crydd a'r L么n Newydd,
A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.
ymlaen...
|
|