成人快手


Explore the 成人快手

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1938 - 1955

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod           Eisteddfod Radio

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr y bwriadwyd cynnal Eisteddfod 1940, ond ofnai'r Llywodraeth y gallai'r dref fod yn darged i gyrchoedd o'r awyr. 'Roedd yn ardal ddiwydiannol a chanddi'r ffatri arfau fwyaf yn y byd. Ystyriwyd wedyn cynnal yr Eisteddfod yn Aberpennar, ond barnai'r Llywodraeth y gallai'r dref honno hefyd fod yn darged milwrol. Ymgynghorodd pwyllgor brys 芒'r 成人快手. Defnyddiodd Cynan gyfrwng y dydd i wneud cyhoeddiad:

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y 成人快手 ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol. Y cynnig mewn gair oedd hyn: bod cyd-bwyllgor bychan o gynrychiolwyr y Cyngor a'r 成人快手 i gydweithredu ar gynllun i geisio achub hynny a ellid o raglen Eisteddfod un naw pedwar dim drwy gyfrwng y radio.'

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • 2 filiwn rhwng 19 a 27 oed yn cael eu galw i'r Lluoedd Arfog.
  • Cig yn cael ei ddogni.
  • Himmler yn gorchymyn adeiladu Auschwitz.
  • Churchill yn dod yn Brif Weinidog gan olynu Chamberlain.
  • Milwyr Prydeinig yn dianc o Dunkirk.
  • Brwydr Prydain yn cychwyn.
  • Polisi heddychlon a fabwysiadwyd yn swyddogol gan Blaid Cymru yn y Rhyfel. Yn nhyb aelodau'r Blaid, rhyfel rhwng y pwerau mawrion oedd hwn, a chredent fod gan Gymru yr hawl i beidio ag ymladd.
  • Dim ond ychydig aelodau a ddilynodd y llwybr hwn a charcharwyd 12 ohonynt.
  • Ymosodiadau o'r awyr ar Gaerdydd, gorsaf y Llu Awyr ym Mhenrhos, Gwynedd, Doc Penfro a Llandarsi.
  • Trotski yn cael ei lofruddio ym Mecsico.
  • Geni Tom Jones, neu Thomas Woodward, ym Mhontypridd.

Archdderwydd               Crwys

Y Gadair

Testun. Awdl: Agored 
Enillydd: T. Rowland Hughes ('Pererinion')
Beirniaid: G. J. Williams, R. Williams Parry, William Morris

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Awdl arall 芒 Chymru yn thema iddi. Mae'r gerdd yn trafod argyfwng ysbrydol Cymru mewn cyfnod o anwareidd-dra ac yn mynegi pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel. Cyfeirir at y Blitz ynddi. Yn yr awdl mae un o'r delwau a geir yn Nhyddewi yn holi pererinion, ac yn gofyn a ydyw'r Cymry yn parchu eu hiaith o hyd ac yn gwerthfawrogi harddwch y wlad. Mae un o'r pererinion yn ateb drwy ddweud fod cyfalafiaeth a diwydiant yn hagru'r wlad, a chyfeirir at ddiweithdra'r tridegau ynddi hefyd. Awdl anwastad yw'r awdl er miniogrwydd ei chyfoesedd.

Y Goron

Testun: Agored
Enillydd: Neb yn deilwng
Beirniaid: Cynan, Thomas Parry, W. J. Gruffydd
Cerddi eraill: Y gerdd orau yn y gystadleuaeth oedd pryddest gan J. M. Edwards, Prifardd coronog 1937, a Phrifardd y Goron yn yr Eisteddfod ddilynol.

Y Fedal Ryddiaith

Testun: Ni chafwyd cystadleuaeth Medal Ryddiaith fel y cyfryw. Cynigiwyd y Fedal Lenyddiaeth am y gwaith llenyddol gorau.
Enillydd: T. Hughes Jones (stori fer-hir: Sgweier Hafila )

 
Tlws y Ddrama                        
Cystadleuaeth gynhlaiwyd rhwng 1961 a 1993
 
Tlws y Cerddor                       
Sefydlwyd ym 1990 
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy