³ÉÈË¿ìÊÖ

  • Geometreg a Mesur

    • Loci a gwneud lluniadau

      I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.

    • Theorem Pythagoras – Canolradd ac Uwch

      Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hydoedd mewn trionglau ongl sgwâr. Gwelir trionglau ongl sgwâr mewn bywyd bob dydd – o ddimensiynau teledu i ysgol sy'n gorffwys yn erbyn wal.

    • Trigonometreg – Canolradd ac Uwch

      Mae perthnasau trigonometrig yn bwysig iawn yn y diwydiant adeiladu a chynllunio ac yn caniatáu cyfrifo hydoedd ac onglau anhysbys yn drachywir.

    • Helaethiadau/Siapiau tebyg – Canolradd ac Uwch

      Mae ffactorau graddfa’n sicrhau bod siâp yn aros yn yr un cyfraneddau pan fo’r maint yn newid. Gall hyn fod yn bwysig wrth newid maint llun i wneud yn siŵr nad yw’r ddelwedd yn cael ei haflunio.

    • Mapiau

      Mae mapiau a lluniadau wrth raddfa’n ffurfio rhan hanfodol o’n bywyd bob dydd. Mae lluniadau wrth raddfa’n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd megis pensaernïaeth. Rhaid i ni ddeall cyfeiriannau hefyd.

    • Trawsnewid rhwng unedau metrig ac imperial

      Oherwydd bod cydweithrediad rhyngwladol mor bwysig i ddiwydiant a'r economi, mae'n hanfodol gallu trosi rhwng unedau metrig ac imperial.

    • Dadansoddi dimensiynol - Canolradd ac Uwch

      Mae dadansoddi dimensiynol yn caniatáu i ni dynnu casgliadau ynglŷn â fformiwlâu. Mae'n darparu ffordd amgen i ni o wirio ein cyfrifiadau ein hunain a rhai pobl eraill.

    • Mesurau cyfansawdd

      Mae mesurau cyfansawdd yn fesurau sy’n cynnwys dwy uned wahanol neu fwy, ee m/s, g/cm³, poblogaeth fesul km² a milltiroedd y galwyn. Rydyn ni’n gweld mesurau cyfansawdd mewn pob math o gyd-destunau.

    • Perimedr ac arwynebedd

      Gall gwybod sut i ddod o hyd i berimedr neu arwynebedd siâp fod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd. Defnyddia hyn mewn cyfrifiadau i ddod o hyd i faint o ddeunyddiau sydd eu hangen a'r gost.

    • Arwynebedd arwyneb a chyfaint

      Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw’n ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy’n nodi cyfanswm arwynebedd pob un o’u hwynebau.

Links