Gallwn gyfrifo cyfaint siapiau 3D er mwyn canfod eu cynhwysedd neu faint o ofod maen nhw鈥檔 ei lenwi. Gallwn hefyd ganfod yr arwynebedd arwyneb, sy鈥檔 nodi cyfanswm arwynebedd pob un o鈥檜 hwynebau.
Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur
Save to My Bitesize
Cofia fod cyfaint yn cael ei fesur mewn unedau ciwb: mm3, cm3, m3 ayb.
I gyfrifo arwynebedd arwyneb ciwboid, rwyt yn cyfrifo arwynebedd pob wyneb a鈥檜 hadio at ei gilydd.
Cofia fod arwynebedd yn cael ei fesur mewn unedau sgw芒r: mm2, cm2, m2 ayb.
Cyfrifa gyfaint ac arwynebedd arwyneb y blwch pren hwn sy鈥檔 mesur 35 cm wrth 20 cm wrth 15 cm.
\(\text{Cyfaint=lled}\times\text{hyd}\times\text{uchder}\)
1. Cyfrifa gyfaint y blwch pren:
Cyfaint = 20 脳 35 脳 15 = 10,500 cm3
2. Cyfrifa鈥檙 arwynebedd arwyneb trwy gyfrifo arwynebedd pob wyneb a鈥檜 hadio at ei gilydd:
Arwynebedd y gwaelod = 35 脳 20 = 700 cm2
Mae arwynebedd y top yr un fath = 700 cm2
Arwynebedd y blaen = 35 脳 15 = 525 cm2
Mae arwynebedd y cefn yr un fath = 525 cm2
Arwynebedd yr ochr chwith = 15 脳 20 = 300 cm2
Mae arwynebedd yr ochr dde yr un fath = 300 cm2
Cyfanswm yr arwynebedd arwyneb = (2 脳 700) + (2 脳 525) + (2 脳 300) = 3,050 cm2