Mae Cymru鈥檔 adnabyddus ledled y byd am ei chestyll. Oeddet ti鈥檔 gwybod bod dros 600 o gestyll yn Nghymru, sy鈥檔 fwy fesul milltir sgw芒r nag unrhyw le arall yn y byd?
Mae rhai cestyll yn dal i sefyll ar 么l mil o flynyddoedd, tra bod eraill yn adfeilion erbyn hyn. Mae llawer ohonyn nhw鈥檔 gestyll brodorol Cymreig a gafodd eu hadeiladu gan aelodau o鈥檙 llinach frenhinolAelodau o鈥檙 teulu brenhinol yn nhrefn eu teyrnasiad. Gymreig mewn ardaloedd pwysig.
Fodd bynnag, cafodd y cestyll mwyaf eu hadeiladu gan y Normaniaid yn dilyn eu concwest yn 1066.
Fideo - Cestyll
Cestyll cynnar Cymru
Cafodd nifer o safleoedd caerog, fel bryngaerSafle ar ben bryn sy鈥檔 cael ei amddiffyn gan fanciau a llethrau., eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod yr Oes Haearn rhwng 800 CC a 74 AC. Cafodd rhain eu hadeiladu fel safleoedd amddiffynnol yn erbyn llwythau o goresgynwyrPobl sy鈥檔 cipio gwlad a chymryd rheolaeth ohono. rhyfelgar. Yn aml, roedden nhw鈥檔 sefyll ar dir uchel gyda golygfeydd clir dros y wlad o鈥檜 hamgylch i gadw llygad allan am oresgynwyr, ac yn cynnwys rhagfuriauWaliau uchel sy鈥檔 amddiffyn ac yn amgylchynu castell. a ffosydd.
Yn dilyn goresgyniad y Rhufeiniaid dros Brydain, cafodd rhai bryngaerau eu meddiannu tra bod eraill wedi cael eu dinistrio.
Yn dilyn hyn, arweiniodd goresgyniad y Normaniaid yn 1066 at oes newydd o adeiladu cestyll. I ddechrau, roedden nhw鈥檔 adeiladu cestyll newydd mewn trefi i fod yng nghanol y boblogaeth. Ond roedd eu cestyll diweddarach yn aml yn ailddefnyddio safleoedd y bryngaerau hynafol o鈥檙 Oes Haearn.
Roedd y Normaniaid yn awyddus i reoli rhwydwaith y ffyrdd Rhufeining a oedd yn dal i fod yn brif lwybrau drwy gefn gwlad. Felly, cafodd rhai cestyll eu hadeiladu ar bwyntiau strategol fel croesfannau afonydd a chroesffyrdd.
Cestyll mwnt a beili oedd y cestyll Normanaidd cyntaf. Roedden nhw鈥檔 cynnwys gorthwrCanolbwynt y castell - t诺r fel arfer. pren neu garreg wedi鈥檌 osod ar dwmpath artiffisial o鈥檙 enw mwnt oedd y math hwn o gastell, wedi鈥檌 amgylchynu gan ardal gaeedig fawr, sef beili. Daeth ffos a 辫补濒颈蝉芒诲Ffens bren ar gyfer amddiffyn. amddiffynnol yn rhan o adeiladwaith y castell mewn blynyddoedd diweddarach.
Manteision ac anfanteision cestyll mwnt a beili
Manteision:
- Roedd y mwnt yn uchel i allu gweld ymosodwyr cyfagos
- Roedd y ffos yn arafu ymosodwyr
- Roedd digon o bren ar gael i鈥檞 hadeiladu鈥檔 rhad ac yn gyflym
Anfanteision:
- Roedd y pren yn pydru ar 么l amser
- Roedd perygl y gallai t芒n losgi鈥檙 castell
- Nid oedd y waliau yn gryf iawn
Erbyn y 12fed ganrif, cafodd rhai cestyll pridd a phren eu hailadeiladu gyda gorthwr carreg yn lle t诺r pren ar y mwnt, muriau cerrig yn lle鈥檙 辫补濒颈蝉芒诲 pren, a th诺r carreg yn lle porth y beili.
Enghraifft dda o鈥檙 math hwn o gastell sy鈥檔 dal i fodoli heddiw yw Castell Ogwr.
Cestyll Tywysogion Cymru
Adeiladodd dywysogion Cymru gestyll eu hunain er mwyn gwarchod eu tir rhag cael eu goresgynY broses o gymryd rheolaeth dros wlad. ac i amddiffyn llwybrau pwysig.
Dechreuodd dywysogion Cymru adeiladu eu cestyll gyda charreg yn ystod y 13eg ganrif. Roeddwn nhw鈥檔 cael eu hadeiladu ar safleoedd a oedd yn eu hamddiffyn yn gryf, ee ar ben bryn neu wrth ymyl afon. Byddai si芒p y cestyll yn amrywio er mwyn manteisio ar eu safleoedd. Y tyrau, a oedd yn aml mewn si芒p D, oedd prif nodwedd y mathau hyn o gestyll, gyda muriau yn eu cysylltu.
Adeiladodd Llywelyn Fawr ddau gastell adnabyddus o鈥檙 math hwn - castell Dolwyddelan a chastell Dolbadarn.
Concwest Cymru a 1282
Ymgyrch oedd hon gan Edward I i oresgyn y tywysogaethauGwlad sy鈥檔 cael ei reoli gan dywysog. Cymreig ac uno Cymru gyda choron Lloegr. Roedd Llywelyn ap Gruffydd, sef Llywelyn ein Llyw Olaf, yn rheoli llawer o鈥檙 tir yng Nghymru a chafodd ei lofruddio gan fyddin Edward I yn Cilmeri, Llanfair-ym-muallt, yn 1282. Dechreuodd Edward droi Cymru鈥檔 fwy Seisnig, gan greu trefi newydd fel y Fflint, Aberystwyth a Rhuddlan a sicrhau mai dim ond pobl Seisnig oedd yn cael byw mewn bwrdeistrefi.
Yn dilyn ei goncwest o Gymru rhwng 1277 a 1283, adeiladodd Edward I gestyll ledled y wlad fel ffordd o reoli鈥檙 Cymry. Enghraifft o hyn yw castell Cydweli yn Sir Gaerfyrddin.
Fel rhan o鈥檌 nod i greu gestyll amddiffynnol a oedd hefyd yn balasau brenhinol, defnyddiodd Edward ddyluniad newydd sef y castell consentrig, sef castell gydag un wal allanol a oedd yn is na鈥檙 wal fewnol. Mae cestyll Biwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech yn enghreifftiau o鈥檙 mathau hyn o gestyll, sy鈥檔 enwog ledled y byd erbyn heddiw ac sydd wedi鈥檜 dynodi鈥檔 Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Ymgais oedd hyn i ddangos p诺er Edward dros Gymru a symbol o鈥檙 drefn newydd, ac roedd yn dangos ei fod yn awyddus i reoli Cymru鈥檔 barhaol.
Cestyll consentrig
Mae gan gastell consentrig o leiaf ddau fur, un o fewn y llall, i鈥檞 gwneud hi鈥檔 anoddach i鈥檙 gelyn ymosod arno 鈥 mae鈥檙 term 鈥榗astell o fewn castell鈥 yn cael ei ddefnyddio鈥檔 aml i鈥檞 ddisgrifio.
Un rheswm yr amgylchynodd y Brenin Edward ardal Eryri 芒 chylch o gestyll consentrig mewn ardaloedd arfordirol neu ar lannau afonydd, oedd er mwyn gallu cludo cyflenwadau鈥檔 hawdd iddyn nhw mewn llongau.
Manteision ac anfanteision cestyll consentrig
Manteision:
- Mwy o haenau i鈥檞 gwneud hi鈥檔 anoddach ymosod arnyn nhw
- Tyrau uwch fel y gallai gwylwyr weld gelynion yn haws
Anfanteision:
- Drud i鈥檞 hadeiladu
- Cymryd llawer o amser i鈥檞 hadeiladu
Castell Harlech
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1282 a 1298
- Enillodd Owain Glynd诺r reolaeth dros y castell yn 1404 a chafodd ei ddefnyddio fel pencadlys iddo
Castell Biwmares
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1295 a thua 1330
- Er i Edward I wario swm enfawr o arian ar ei adeiladu, ni lwyddodd i鈥檞 gwblhau
Castell Conwy
- Cafodd ei adeiladu rhwng 1283 a 1287
- Fe gymerodd y castell bedair mlynedd a hanner i鈥檞 gwblhau a chostiodd 拢15,000, sy鈥檔 werth dros 拢6 miliwn erbyn heddiw
Castell Caernarfon
- Dechreuodd gwaith adeiladu ar y castell i鈥檞 uwchraddio o gastell mwnt a beili yn 1283
- Roedd ganddo lety i lys y brenin a dyma oedd canolfan weinyddol yr ardal
Diwedd oes y cestyll
Yn dilyn concwest lwyddiannus Edward I dros Gymru, daeth cestyll yn llai pwysig o safbwynt milwrol yn raddol. Ar 么l i bowdr gwn a鈥檙 canon gael eu dyfeisio, roedd hi鈥檔 bosib dinistrio cestyll yn haws. Dechreuodd frwydrau gael eu hymladd ar dir agored yn hytrach na mewn cestyll.
Dechreuodd rai cestyll gael eu defnyddio fel canolfannau gweinyddol lle gallai rhent a trethi gael eu casglu. Byddai llysoedd barn yn cael eu cynnal mewn cestyll eraill, a chafodd daeargelloeddLle i gadw gelynion neu droseddwyr. rhai cestyll eu defnyddio fel carchardai.
Oes newydd i gestyll yn yr 19eg ganrif
Ar ddiwedd y 18fed ganrif, bu twf yn nifer y bobl a oedd yn ymddiddori mewn pensaern茂aeth ganoloesol. Dechreuodd rai pobl gyfoethog ailfodelu eu tai i edrych fel cestyll neu hyd yn oed adeiladu rhai newydd!
Doedd gan y cestyll hyn ddim pwrpas milwrol a doedden nhw ddim yn amddiffyn tir - symbolau statws oedden nhw i ddangos fod y perchnogion yn gyfoethog. Y castell enwocaf o鈥檙 math hwn yng Nghymru yw Castell Coch ger Caerdydd. Cafodd ei adeiladu gan y pensaer, William Burges, ar ddiwedd y 19eg ganrif ar gyfer yr Arglwydd Bute a wnaeth ei ffortiwn o ddociau Caerdydd. Roedd e eisoes yn berchen ar adfeilion castell canoloesol a phenderfynodd ailadeiladu castell ar y safle.
Cwis - Cestyll
More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count4 of 4
- count1 of 4
- count2 of 4