成人快手

Y blynyddoedd cynnar

Roedd angen ailadeiladu Prydain yn dilyn Yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) a sicrhau bod swyddi a gofal meddygol ar gael i鈥檙 milwyr oedd yn dychwelyd i鈥檙 wlad. Er bod Prydain wedi ennill y rhyfel, achosodd broblemau mawr i鈥檙 economi yn y tymor byr, gan fod nifer fawr o longau a oedd yn cario nwyddau wedi cael eu suddo.

Yn ogystal 芒 hyn, roedd nifer o wledydd a oedd yn rhan o鈥檙 Ymerodraeth Brydeinig eisiau gadael. Casgliad o wledydd neu diroedd oedd yn cael eu rheoli gan Brydain oedd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac roedd Prydain yn rheoli 23 y cant o holl boblogaeth y byd erbyn 1913.

Dechreuodd gwledydd gwestiynu hawl Prydain i鈥檞 rheoli ar 么l yr Ail Ryfel Byd. Enillodd India annibyniaeth yn 1947 ar 么l protestiadau di-drais dan arweinyddiaeth Mahatma Gandhi.

Hefyd, roedd Prydain yn gweld bod rheoli ymerodraeth yn gostus o ran byddin a llynges. Effeithiodd hyn ar economi Prydain gan fod gwledydd yr ymerodraeth yn rhan bwysig o fasnach. Roedd yn rhaid i Brydain hefyd ddechrau talu eu dyledion rhyfel, er bod masnach wedi lleihau.

Adroddiad Beveridge

William Beveridge yn cyfarch torf mewn neuadd.
Image caption,
William Beveridge yn annerch torf yn Llundain yngl欧n 芒鈥檌 adroddiad

Ar 么l ennill etholiad 1945, gwnaeth y Prif Weinidog, Clement Attlee, greu cynllun mewn ymateb i Adroddiad Beveridge a gafodd ei gyhoeddi yn 1942. Disgrifiodd yr adroddiad y problemau cymdeithasol yr oedd angen rhoi sylw arbennig iddyn nhw ar 么l y rhyfel. William Beveridge gafodd y gwaith o ysgrifennu鈥檙 adroddiad a daeth i鈥檙 casgliad mai 鈥楶um cawr鈥 oedd wrth wraidd problemau cymdeithasol Prydain sef:

  • angen 鈥 roedd pobl yn dlawd
  • afiechyd 鈥 roedd gofal iechyd yn annigonol
  • anwybodaeth 鈥 nid oedd y boblogaeth wedi derbyn addysg dda
  • aflendid 鈥 roedd cyflwr tai yn wael iawn
  • segurdod 鈥 roedd diffyg swyddi a chyfle i ennill cyflog

Gwladwriaeth les

Cynigiodd Beveridge greu system gymdeithasol 鈥榦鈥檙 crud i鈥檙 bedd鈥 a ddaeth yn sylfaen i鈥檞 gynllun o sefydlu . Gwnaeth Attlee roi llawer o syniadau Beveridge ar waith, megis gofal meddygol am ddim i bawb ac addysg am ddim i bob plentyn tan eu bod yn 15 mlwydd oed. Yn ogystal 芒 hyn, cafodd cynllun enfawr i adeiladu miloedd o dai cyngor o safon uchel ei gyflwyno i wella鈥檙 broblem o aflendid. Er mwyn ceisio mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi, cafodd cynllun nawdd cymdeithasol ei gyflwyno a oedd yn cynnig pensiwn i鈥檙 henoed a i bobl s芒l ac anabl.

Gwladoli

Un o benderfyniadau llywodraeth Attlee oedd rhai diwydiannau. Ystyr hyn yw bod llywodraeth yn penderfynu rheoli neu berchen cwmn茂au neu ddiwydiannau. Yn y 1940au, cafodd y diwydiannau glo, trydan, rheilffyrdd, haearn a dur eu rhoi o dan berchnogaeth y wlad. Gwnaeth hyn sicrhau bod gwaith pobl ddiogel mewn meysydd pwysig yn ddiogel yn yr ymdrech o ailadeiladu鈥檙 wlad. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, gwnaeth y llywodraeth berchenogi a chymryd rheolaeth dros 1,200 o byllau glo a oedd yn berchen i 800 o gwmn茂au ac a oedd yn cyflogi 700,000 o bobl.

Diwydiannau a wladolwyd gan y blaid Lafur (1945-50) 鈥 Diwydiant glo (1947) Trydan (1947) Rheilffyrdd (1948) Diwydiant haearn a dur (1949).

Y tymor hir

Pymtheg mlynedd ar 么l y rhyfel, bu cyfnod o lwyddiant economaidd ym Mhrydain. Roedd y 1950au yn cael eu hystyried fel 鈥極es Aur鈥 gan fod nifer y bobl heb waith yn isel ac roedd cyflogau gweithwyr yn codi.

Oes Aur y 1950au

Cynyddodd cyflogau pobl, gan gynnwys y dosbarth gweithiol, yn ystod y cyfnod yn dilyn y rhyfel. Rhwng 1955 a 1969, bu cynnydd o 130 y cant mewn cyflogau. Yn 1957, roedd pobl ifanc yn eu harddegau yn ennill 50 y cant yn fwy o d芒l o gymharu ag yn 1938. Felly, roedd gan deuluoedd arian i鈥檞 wario ar bethau fel gwyliau. Agorodd cwmni Butlins wersyll gwyliau ym Mhwllheli yn 1950.

Mae arferion siopa pobl heddiw wedi eu siapio gan y cyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil cyfoeth newydd pobl yn y cyfnod, agorwyd canolfannau siopa a siopau 鈥榗adwyn鈥 am y tro cyntaf mewn dinasoedd.

Yn ogystal 芒 hyn, agorodd siopau 鈥榟unanwasanaeth鈥, sef archfarchnadoedd lle roedd y cwsmer yn estyn y nwyddau ei hun, am y tro cyntaf. Agorodd cwmni Co-op, y siop hunanwasanaeth gyntaf yn Llundain yn 1948, ac agorodd Tesco un yn St Albans yn dilyn hyn.

Yn sgil masgynhyrchu, bu twf mewn gwerthiant ceir oherwydd bod mwy o bobl yn gallu eu fforddio. Cafodd hyn ddylanwad ar ba mor bell roedd pobl yn barod i deithio ac arweiniodd hyn at gynllun adeiladu ffyrdd mawr. Agorodd y darn cyntaf o draffordd ym Mhrydain yn 1958 ac agorodd Pont Hafren rhwng Cymru a Lloegr yn 1966.

Ffotograff yn dangos archfarchnad oedd newydd gael ei hagor ym Maidenhead, lle mae pobl i鈥檞 gweld yn helpu eu hunain i eitemau.
Image caption,
Archfarchnad newydd gael ei hagor yn Maidenhead

Nwyddau traul

Cyn y rhyfel, dim ond y bobl mwyaf cyfoethog oedd yn gallu prynu peirannau ar gyfer eu cartrefi. Wrth i gyflogau gynyddu, roedd gan bobl fwy o arian i鈥檞 wario ar nwyddau ar gyfer eu cartrefi. Gan fod gwerthiannau鈥檔 uwch, roedd prisiau鈥檔 cwympo ac roedd mwy yn gallu fforddio eu prynu. Yn ogystal 芒 hyn, roedd dylanwad cymdogion yn bwysig - roedd teuluoedd eisiau cop茂o ei gilydd a phrynu鈥檙 offer diweddaraf. Felly, roedd angen sicrhau bod trydan ar gael ym mhob t欧 newydd ac erbyn 1960 roedd wedi cyrraedd yr ardaloedd mwyaf gwledig.

Yn 1955, dim ond 20 y cant o bobl Prydain oedd yn berchen ar gar ond roedd hyn ar fin newid. Roedd mwy a mwy o bobl yn berchen ar nwyddau traul, ee set deledu, sugnwr llwch, peiriant cerddoriaeth a pheiriant golchi. Erbyn 1960, roedd 40 y cant o gartrefi yn berchen ar beiriant golchi dillad ac roedd 21 y cant yn berchen ar oergell.

Arweiniodd y defnydd o oergell a rhewgell at newidiadau i ddeiet pobl, ac roedd bwydydd wedi鈥檜 rhewi bellach yn cael eu gwerthu mewn siopau. Un effaith negyddol o鈥檙 twf mewn gwerthiant setiau teledu yn yr 1950au a鈥檙 1960au oedd cwymp yn nifer y bobl oedd yn mynd i鈥檙 sinema.

Hysbysebu

Roedd r么l hysbysebu yn bwysig er mwyn tynnu sylw at y nwyddau newydd. Ceisiodd yr hysbysebion bwysleisio bod llawer o鈥檙 nwyddau yma am drawsnewid bywydau teuluoedd.

Yn 1960, roedd cwmn茂au yn gwario pedair gwaith yn fwy o arian ar hysbysebion o gymharu ag yn 1947. Cafodd cylchgrawn Which ei lansio yn 1957 a oedd yn rhoi cyngor ar nwyddau a gwasanaethau, gan werthu 300,000 o gop茂au.

Hurbwrcas

Cafodd y system ei chyflwyno fel bod pobl yn gallu fforddio prynu nwyddau traul. Roedd y system yma yn golygu y gallai bobl dalu am nwyddau i鈥檙 t欧 dros gyfnod hir felly roedd mwy o bobl yn gallu fforddio eu prynu nhw. Erbyn 1956, roedd hanner o鈥檙 setiau teledu oedd yn cael eu gwerthu yn cael eu prynu gan ddefnyddio鈥檙 system yma, ac arweiniodd hyn at system y cerdyn credyd.

Fideo - Yr economi wedi'r rhyfel

Effaith ar ddiwydiannau Cymru

Cafodd y twf yng ngwerthiant ceir a nwyddau traul effaith ar ddiwydiannau traddodiadol yng Nghymru megis y diwydiant dur. Wrth i fwy o bobl brynu ceir a pheiriannau a oedd wedi eu gwneud o fetel, cafodd hyn effaith bositif ar weithfeydd dur yng Nghymru.

Fodd bynnag, rhywbeth dros dro oedd hyn oherwydd dyma鈥檙 cyfnod lle dechreuodd diwydiannau traddodiadol Cymru megis dur, glo a llechi wynebu problemau. Erbyn y 1960au, roedd y galw am gynnyrch y diwydiannau hyn wedi cwympo yn dilyn twf ar ddiwedd y rhyfel. Felly, nid oedd angen cymaint o weithwyr bellach gan fod llai o lo, dur a llechi yn cael eu gwerthu.

Ar 么l cyfnod llewyrchus y 1950au, cafodd 50 pwll glo eu cau yng Nghymru rhwng 1957 a 1964. Roedd llai na 1,000 yn gweithio yn y chwareli llechi yng ngogledd Cymru erbyn 1970. Collodd 6,500 o weithwyr eu swyddi yng ngwaith dur Shotton yn Sir y Fflint yn 1980.

A oedd gwelliant ym mywydau pobl ar 么l yr Ail Ryfel Byd?

Ar un llaw, gwelodd lawer o bobl welliant yn y 1950au gan fod diweithdra yn isel a daeth dogni bwyd i ben. I lawer roedd yn gyfnod o gyfoeth gan fod arian sb芒r ganddyn nhw i鈥檞 wario ar nwyddau.

Fodd bynnag, ddaeth pawb ddim yn fwy cyfoethog yn dilyn y rhyfel, gan fod nifer dal heb swyddi ac yn methu 芒 byw ar fudd-daliadau. Roedd gan bensiynwyr lai o arian i鈥檞 wario gan fod gwerth eu pensiwn wedi gostwng. Yn ogystal 芒 hyn, tuag at ddiwedd y 1950au roedd gweithwyr mewn swyddi traddodiadol fel glo, haearn, dur a llechi yn colli eu swyddi wrth i weithfeydd gau lawr.

Cwis - Yr economi wedi'r rhyfel

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic