成人快手

Dechrau鈥檙 rhyfel

Dechreuodd yr Ail Ryfel Byd ar 么l i鈥檙 Almaen ymosod ar Wlad Pwyl yn 1939, a gwrthod tynnu ei milwyr allan o鈥檙 wlad ar 么l rhybudd terfynol gan Brydain. Cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Neville Chamberlain, ryfel yn erbyn yr Almaen ar 3 Medi 1939. Penderfynodd Ffrainc ymuno 芒 Phrydain yn yr ymdrech.

Llinell amser yn dangos Yr Almaen yn ymosod ar Wlad Pwyl yn 1939, Prydain yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen yn 1939 a chyfnod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1939 a 1945

Fideo - Yr Ail Ryfel Byd

Sut wnaeth yr Ail Ryfel Byd effeithio ar fywydau pobl?

Consgripsiwn a hyfforddiant

Roedd Prydain wedi dechrau paratoi at y bygythiad o ryfel ym mis Mai 1939 drwy gyflwyno consgripsiwn, sef system i orfodi dynion sengl rhwng 20 a 22 oed i ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog. Ymunodd 240,000 o ddynion 芒鈥檙 lluoedd arfog i dderbyn hyfforddiant milwrol.

Ar ddechrau鈥檙 rhyfel, cafodd Deddf Gwasanaeth Cenedlaethol 1939 ei phasio a oedd yn disgwyl i bob dyn rhwng 18 a 41 ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog, ar yr amod eu bod yn pasio prawf meddygol. Doedd dim rhaid i ddynion ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog os oedden nhw鈥檔 gweithio mewn swyddi a diwydiannau allweddol, ee:

  • amaethyddiaeth
  • meddygaeth
  • peirianneg
  • addysg, ee athrawon

Wrth i鈥檙 rhyfel waethygu erbyn 1941, ailedrychodd y Llywodraeth ar y rheolau. Roedd disgwyl i ddynion hyd at 60 oed wneud rhyw fath o Wasanaeth Cenedlaethol. Hefyd, roedd hi鈥檔 bosib gofyn i ferched sengl neu wragedd heb blant i wasanaethu mewn swyddi penodol, ee gweithio mewn diwydiant.

Gwrthwynebwyr cydwybodol

Roedd rhai yn gwrthod ymuno 芒鈥檙 lluoedd arfog am resymau yn ymwneud 芒 chred, crefydd a moeseg - sef gwrthwynebwyr cydwybodol. Roedd yn rhaid iddyn nhw ymddangos o flaen tribiwnlys i ddadlau eu hachos dros beidio ymuno 芒r lluoedd arfog. Cafodd llawer ohonyn nhw gynnig yr opsiwn o wneud gwaith gwahanol, ee gweithio ar ffermydd neu mewn ysbytai.

Un o wrthwynebwyr cydwybodol enwocaf Cymru oedd y bardd a鈥檙 , Waldo Williams. Yn dilyn cyfnod yn y carchar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am fod yn wrthwynebwr cydwybodol, gwrthododd Waldo Williams ymuno 芒鈥檙 fyddin eto yn 1940. Fe wnaeth e golli ei swydd fel prifathro ysgol oherwydd hyn.

Ardaloedd hyfforddi

Cafodd Mynydd Epynt ei ddewis fel ardal hyfforddi gan y Swyddfa Ryfel. Ym mis Rhagfyr 1939, cafodd 219 o bobl oedd yn byw mewn 52 o gartrefi wybod bod yn rhaid iddyn nhw adael erbyn mis Ebrill 1940 fel bod y tir yn gallu cael ei defnyddio i hyfforddi鈥檙 fyddin. Yr enw gafodd ei roi ar hyn oedd 鈥榊 Chwalfa鈥 (The Clearing). Cafodd cymuned Gymraeg ei chwalu.

Roedd rhai wedi gwrthwynebu hyn ac roedd nifer o bobl yn credu y bydden nhw鈥檔 cael eu dychwelyd i鈥檞 cartrefi ar ddiwedd y rhyfel. Mae hi dal yn ardal hyfforddi filwrol hyd heddiw.

Ffotograff o fynydd Epynt
Image caption,
Mynydd Epynt

Dogni bwyd

Bu鈥檔 rhaid cyflwyno dogni bwyd yn 1942 gan fod lluoedd yr Almaen yn ymosod ar longau Prydain a oedd yn cario bwyd. Roedden nhw鈥檔 defnyddio llongau tanfor o'r enw U-boats i gyfyngu ar faint o fwyd oedd yn cyrraedd Prydain. Cafodd dociau a phorthladdoedd megis Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd eu bomio hefyd.

Roedd dogni bwyd yn golygu bod pob oedolyn a phlentyn yn derbyn llyfr dogni i鈥檞 ddefnyddio mewn siopau cig, siopau bwyd a gyda gwerthwyr llaeth. Roedd talebau ym mhob llyfr ar gyfer prynu eitemau arbennig. Roedd mwy a mwy o fwyd yn cael ei ddogni wrth i鈥檙 rhyfel fynd yn ei flaen, ee:

  • cig moch a ham
  • 尘补谤驳补谤卯苍
  • siwgr
  • llaeth
  • caws
  • te rhydd
  • wyau
Yr eitemau ar gyfer un person yn ystod dogni 鈥 2 owns o ddail te, 4 owns o marjar卯n, 1 owns o gaws, 2 owns o fenyn, un wy ffres, 8 owns o siwgr
Figure caption,
Enghraifft o eitemau bwyd wythnosol unigolyn
Poster gyda darlun o fasged o lysiau iach. Y geiriau yw 'Your own vegetables all year round鈥 if you dig for victory now.
Image caption,
Poster Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)

Roedd plant yn gallu cael mwy o rai eitemau, yn arbennig llaeth, gan eu bod nhw鈥檔 dal i dyfu. Roedd y cosbau am dorri rheolau dogni bwyd yn llym iawn ac yn arwain at neu gyfnod yn y carchar.

Arweiniodd y system dogni bwyd at fwy o bobl yn tyfu bwyd eu hunain. Yn 1939, dechreuodd ymgyrch Dig for Victory er mwyn annog mwy o bobl i dyfu llysiau yn eu gerddi neu randiroedd. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 1.4 miliwn o randiroedd ym Mhrydain gyda 75 y cant o fwydydd yn cael eu tyfu鈥檔 lleol. Roedd nifer yn cadw anifeiliaid ar gyfer bwyd hefyd, ee geifr, ieir a moch.

Parhaodd y system dogni bwyd hyd yn oed ar 么l diwedd y rhyfel a gwnaeth e ddim gorffen yn llwyr tan 1954. Roedd pobl yn dal i fod yn ofalus gyda bwyd hyd yn oed ar 么l y rhyfel, gan sicrhau nad oedd unrhyw wastraff o ran bwyd a deunyddiau.

Poster gyda darlun o fasged o lysiau iach. Y geiriau yw 'Your own vegetables all year round鈥 if you dig for victory now.
Image caption,
Poster Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)

Mae'r gair Blitz yn fyr am y gair Almaeneg, Blitzkrieg, sy'n golygu rhyfel mellt. Bu鈥檔 gyfnod pan gafodd dinasoedd, porthladdoedd, ffatr茂oedd diwydiannol a chanolfannau milwrol eu bomio o鈥檙 awyr.

Dechreuodd y bomio yn Llundain ar ddydd Sadwrn 7 Medi 1940 ac arweiniodd at 57 noson o ymosodiadau. Caerdydd ac Abertawe ddioddefodd yr ymosodiadau mwyaf yng Nghymru. Cafodd canol dinas Abertawe ei ddinistrio dros dair noson o fomio ym mis Chwefror 1941. Gollyngodd awyrlu yr Almaen 30,000 o fomiau a chafodd 227 o bobl eu lladd.

Cafodd nifer o blant eu symud o鈥檙 dinasoedd megis Llundain, Coventry, Birmingham, Abertawe, Plymouth a Sheffield. Roedden nhw鈥檔 cael eu galw鈥檔 . Derbyniodd Cymru tua 110,000 o blant. Symudodd nifer o鈥檙 dinasoedd i ardaloedd gwledig a dysgu Cymraeg.

Winston Churchill a mintai fawr yn cerdded drwy adeiladau wedi鈥檜 bomio.
Image caption,
Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain, yn ymweld 芒 Llundain oedd wedi ei difrodi gan ymosodiadau o鈥檙 awyr

Canlyniadau鈥檙 rhyfel

Cafodd 300,000 o filwyr Prydain eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd, ac roedd tua 15,000 ohonyn nhw鈥檔 Gymry. Un o brif effeithiau鈥檙 Blitz oedd nifer y bobl oedd yn ddigartref a鈥檙 busnesau a gafodd eu dinistrio, ac arweiniodd hyn at economi gwan yn dilyn y rhyfel.

Bu newidiadau gwleidyddol sylweddol ym Mhrydain yn dilyn y rhyfel. Cafodd Clement Attlee, o鈥檙 Blaid Lafur, ei ethol yn Brif Weinidog Prydain yn mis Gorffennaf 1945, yn lle Winston Churchill.

Datblygodd bywydau merched oherwydd eu rolau allweddol fel rhan o ymdrech y rhyfel. Un newid mawr oedd bod nifer o ferched wedi parhau i weithio yn y rolau newydd yn lle dychwelyd i swyddi traddodiadol fel digwyddodd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Roedd pobl yn teimlo鈥檔 fwy Prydeinig a yn dilyn y negeseuon yn y sinem芒u ac ar bosteri. Roedd gan bobl Prydain ryddid a phwrpas newydd i鈥檞 bywydau ar 么l cyfnod o fyw drwy ryfel.

Roedd yr Ail Ryfel Byd hefyd yn gyfnod o arloesi a arweiniodd at ddatblygiadau technolegol a meddygol.

Cwis - Yr Ail Ryfel Byd

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic