Pwy oedd Merched Beca?
Gr诺p o ddynion oedd Merched Beca a wnaeth ymosod ar tollborthAdeilad wrth ffordd tyrpeg lle mae鈥檙 toll yn cael ei gasglu. yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839 a 1843. Roedden nhw鈥檔 gwrthryfelaGweithredu鈥檔 dreisgar yn erbyn person neu fudiad. yn erbyn y tollauFfi sy鈥檔 cael ei godi er mwyn defnyddio ffordd neu i groesi bont. drud oedd yn cael eu codi ar bobl am deithio ar hyd ffyrdd tyrpegPrif ffordd lle roedd toll yn cael ei godi am deithio arno..
Roedd llawer o cwmn茂au tyrpegCwmn茂au oedd yn casglu toll ar ffyrdd ac yn gwneud elw. yn yr ardal. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i bobl dalu tollau i sawl cwmni gwahanol wrth deithio o un lle i鈥檙 llall. Doedd yna ddim cymaint o gystadleuaeth rhwng cwmn茂au yn Lloegr.
Doedd dim modd i ffermwyr osgoi鈥檙 ffyrdd yma, gan fod yn rhaid iddyn nhw yrru eu gwartheg ar eu hyd a theithio yn 么l ac ymlaen i'r farchnad i brynu calchDeunydd naturiol oedd yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr er mwyn helpu i wneud y tir yn ffrwythlon. i wella鈥檙 pridd. Felly, roedd y system hon yn ddrud iawn iddyn nhw.
Ar 么l blino ar y drefn, daeth gr诺p o ffermwyr at ei gilydd i wrthryfela yn erbyn y system. Er mwyn cuddio pwy oedden nhw, gwisgodd y dynion ddillad menywod a phaentio eu hwynebau yn ddu. Roedd hyn yn debyg iawn i鈥檙 hyn oedd yn digwydd gyda鈥檙 Ceffyl Pren, math o gosb gymunedol oedd yn draddodiad yn ardaloedd gwledig Cymru.
Y Ceffyl Pren
Roedd y Ceffyl Pren yn gosb gorfforol oedd yn cael ei defnyddio mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Roedd hi鈥檔 draddodiad yn yr ardaloedd hyn bod pobl leol yn cosbi aelodau o鈥檙 gymuned eu hunain.
Byddai torf o bobl yn paentio eu hwynebau yn ddu ac yn cario ffr芒m bren neu ysgol, at ddrws cartref troseddwr. Byddai鈥檙 troseddwr yn cael ei gario o gwmpas y pentref wedi ei glymu i鈥檙 ffr芒m neu鈥檙 ysgol er mwyn codi cywilydd arnyn nhw.
Mae鈥檔 debyg bod terfysgwyr Beca wedi defnyddio鈥檙 Ceffyl Pren ar geidwaid tollbyrth a鈥檙 rhai oedd yn anghytuno gyda鈥檙 hyn roedden nhw鈥檔 ei wneud.
Fideo - Terfysgoedd Beca
Terfysgoedd Beca
Digwyddodd ymosodiad cyntaf Merched Beca ar 13 Mai 1839 ar dollborth Efailwen, yn Sir Gaerfyrddin.
Dyma oedd y cyntaf mewn cyfres o 500 o ymosodiadau yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839 a 1843.
Efailwen
Roedd 12 o dollbyrth ar y ffyrdd o gwmpas tref Caerfyrddin yn unig, ac arweiniodd hyn at anfodlonrwydd ymysg y ffermwyr lleol. Cafodd tollborth newydd ei adeiladu yn 1839 ym mhentref Efailwen a dyma oedd yr ergyd olaf i鈥檙 ffermwyr. Roedden nhw wedi bod yn defnyddio鈥檙 ffordd hon er mwyn osgoi talu tollau ar ffyrdd eraill yn yr ardal ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio鈥檙 ffordd hon i gludo eu calch.
Yn 么l hanesion lleol, dyn o鈥檙 enw Thomas Rees, neu Twm Carnabwth, oedd yn gyfrifol am drefnu鈥檙 ymosodiad c yntaf. Roedd yn ddyn crefyddol a oedd hefyd yn enwog fel bocsiwr yn ffeiriau鈥檙 ardal. Ar noson 13 Mai 1839, aeth torf o ddynion ati i wisgo fel merched a phaentio eu hwynebau yn ddu cyn mynd i鈥檙 tollborth yn Efailwen a dinistrio鈥檙 glwyd. Yn 么l rhai, roedd hyd at 300 o ffermwyr lleol yn bresennol y noson honno.
Cafodd clwyd newydd ei chodi yn fuan ar 么l hynny, ond ar 6 Mehefin yn yr un flwyddyn aeth Merched Beca ati i ymosod arni unwaith eto. Ar 17 Gorffennaf, fe wnaethon nhw losgi'r tolldyT欧 wrth ymyl y tollborth. a鈥檙 glwyd.
Terfysgoedd pellach
Yn dilyn yr ymosodiad yn Efailwen, lledaenodd Terfysgoedd Beca ar draws de-orllewin Cymru. Y flwyddyn waethaf oedd 1843, pan ymosododd Merched Beca ar lawer o dollbyrth pwysig. Rhwng Ionawr 1843 a鈥檙 gwanwyn, cafodd dros gant o dollbyrth ledled de-orllewin Cymru eu dinistrio.
Ym mis Mai 1843, cafodd tollborth Heol D诺r Caerfyrddin ei ddinistrio gan tua 300 o Ferched Beca, ac ym mis Mehefin ceisiodd torf o 2,000 losgi鈥檙 tlotyAdeilad gan y llywodraeth lle roedd pobl tlawd yn gallu mynd am fwyd a llety os oedden nhw鈥檔 gweithio. yno. Bu鈥檔 rhaid galw ar filwyr wrth i鈥檙 mudiad fynd yn fwy treisgar. Yna ym mis Mehefin, casglodd torf o 4,000 ger tafarn y Plough and Harrow tu allan i鈥檙 dref i orymdeithio a galw am cyfiawnderBod pobl yn cael eu trin yn deg, yn ddiduedd ac yn rhesymol yn 么l y gyfraith..
Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd tua 200 o Ferched Beca ar dollborth ym Mhontarddulais.
Ym mis Awst bu terfysgYmyrraeth dreisgar gan gr诺p o bobl. ym Morgannwg a Llanelli am y tro cyntaf, yn ogystal ag ymosodiadau ar dollbyrth yn Llangyfelach.
Ym mis Hydref, yn ystod terfysg yn yr Hendy ger Abertawe, cafodd ceidwad y tolldy, merch ifanc o鈥檙 enw Sarah Williams, ei lladd.
Digwyddodd ymosodiadau difrifol yn Aberteifi, Hwlffordd, y Tymbl a Chydweli.
Pam yr enw 鈥楤eca鈥?
Yn 么l rhai, y rheswm am ddefnyddio鈥檙 enw oedd bod Twm Carnabwth wedi cael trafferth dod o hyd i ddillad menyw i鈥檞 ffitio cyn yr ymosodiad cyntaf a chafodd fenthyg dillad gwraig o鈥檙 enw Beca Fawr o plwyfUned leiaf llywodraeth leol mewn ardaloedd gwledig dan ofal offeiriad. Llangolman.
Mae鈥檔 fwy tebygol mai arweinydd dychmygol oedd Rebecca a bod yr enw yn dod o Lyfr Genesis, pennod 24, adnod 60:
鈥溾 bendithio Rebecca, a dweud wrthi, 鈥淭ydi, ein chwaer, boed iti fynd yn filoedd o fyrddiynau, a bydded i鈥檛h ddisgynyddion etifeddu porth eu gelynion.鈥
Mae鈥檙 adnod yn cyfeirio at gymryd porth - sef clwyd, neu g芒t gelynion. Dyma oedd union nod Merched Beca wrth ddinistrio clwydi鈥檙 tollbyrth.
Rhesymau eraill dros y terfysgoedd
Roedd hi鈥檔 gyfnod anodd iawn i ffermwyr yn ne-orllewin Cymru, felly roedd nifer o resymau dros y terfysgoedd, yn ogystal 芒 gwrthwynebu鈥檙 tollbyrth, ee:
- gostyngiad ym mhris 欧d a oedd yn golygu nad oedd ffermwyr yn gwneud digon o elw am ei werthu
- dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (ac a ddaeth i ben tua鈥檙 un amser y daeth y terfysgoedd i ben) a cynaeafuProses neu gyfnod o gasglu cnydau. gwael
- dirwasgiad yn ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain, sef y brif farchnad ar gyfer cynnyrch y ffermwyr
- y bwlch anferth mewn cyfoeth rhwng ffermwyr tlawd a tirfeddiannwrPerson sy'n berchen ar dir. cyfoethog a oedd yn codi trethi a rhenti uchel
- amhoblogrwydd treth y tlodion, treth a oedd yn talu am y tlotai newydd
Canlyniad Terfysgoedd Beca
Dim ond un agwedd ar weithredoedd Merched Beca oedd dinistrio tollbyrth. Mewn gwirionedd, roedd y mudiad yn protestio yn erbyn cwynion cymdeithasol eraill, yn ogystal ag yn erbyn tollau uchel y tollbyrth.Cafodd cyfarfod mawr ei gynnal yng Nghwm Gwendraeth ar 25 Awst 1842 ac un arall ger Llyn Llech Owain ym mis Medi, a arweiniodd at cadoediadCytundeb rhwng dwy ochr..
Yn y cyfarfodydd hyn, cafodd penderfyniad ei wneud i ddanfon deiseb at y Frenhines Fictoria. Arweiniodd hyn at:
- basio deddf newydd y flwyddyn ganlynol a oedd yn uno鈥檙 cwmn茂au tyrpeg yn Sir Gaerfyrddin 芒鈥檙 system ehangach, yn fwy tebyg i Loegr
- haneri鈥檙 doll ar galch
- symleiddio鈥檙 system daliadau
Cwis - Terfysgoedd Beca
More on Chwyldro
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3