Fideo - Clefydau
Y Pla Du
Digwyddodd pandemigAfiechyd sy鈥檔 effeithio ar sawl poblogaeth dros ardal ddaearyddol eang. y Pla Du, neu鈥檙 鈥榝arwolaeth fawr鈥, yn ystod y 14eg ganrif ac ni ddiflannodd yn llwyr tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Prif gyfnod y Pla Du oedd rhwng 1349 a 1350 pan gafodd un o bob tri person eu lladd. Roedd yna ail gyfnod rhwng 1360-62.
Lledaenodd y pla ar draws Ewrop o Asia ac mae鈥檔 debyg bod tua 75 miliwn wedi marw o鈥檙 afiechyd. Y cofnod cyntaf o farwolaethau o鈥檙 pla yng Nghymru oedd yng Nghaerfyrddin, a oedd yn borthladd pwysig ar y pryd. Yn yr un modd, cafodd y pla effaith gynnar ar y Fenni, Cil-Y-Coed, Penfro, Hwlffordd a Threffynnon.
Symptomau鈥檙 pla
Roedd y symptomau鈥檔 cynnwys:
- tisian
- pothelli
- chwydd o dan y ceseiliau
- croen yn pylu ac yn dechrau arogli
- croen yn troi鈥檔 ddu
Roedd dau fath o bla sef pla llinorogPla sy鈥檔 cael ei ledaenu gan chwain (bubonic plague) a oedd yn cae ei gario gan chwain a鈥檙 pla niwmonigPla sy鈥檔 cael ei rannu drwy anadlu (pneumonic plague) a oedd yn cael ei drosglwyddo drwy anadlu. Roedd pob math o ofergoeliaethCred annaturiol mewn dylanwadau goruwchnaturiol. yn yr Oesoedd Canol am achosion y pla, ac un o鈥檙 prif gredoau oedd ei fod yn gosb gan Dduw.
Effeithiau'r pla
Cafodd y pla effaith fawr ar amaethyddiaeth wrth i brinder gweithwyr gynyddu a golygu bod lawer o dir yn wag. Diflannodd rhai pentrefi a threfi yn llwyr, ee Llanllwch, yn ymyl Caerfyrddin, a Radyr.
Fe wnaeth nifer o bobl a oedd yn rhentu tiroedd adael Cymru a mynd i Loger yn dilyn codiad mewn trethi. Golygodd hyn fod llawer o arglwyddiPobl gyfoethog a oedd yn berchen ar diroedd. wedi colli arian gan eu bod nhw鈥檔 derbyn llai o incwm mewn rhenti.
Cafodd llawer o dir a oedd yn cael ei ddefnyddio i dyfu bwyd ei newid i dir lle鈥檙 oedd anifeiliaid yn cael eu cadw gan nad oedd angen cymaint o weithwyr.
Arweiniodd canlyniadau鈥檙 pla at wrthryfel yn Ffrainc yn 1358 ac yn Lloegr yn 1381. Mae rhai hefyd yn credu bod effeithiau鈥檙 Pla Du yn un o鈥檙 rhesymau dros wrthryfel Owain Glynd诺r yn 1400.
Colera
Afiechyd yw colera, sy鈥檔 cael ei achosi gan ddiffyg d诺r yfed gl芒n. Yn ystod Oes Fictoria fe wnaeth gorboblogiGormod o boblogaeth yn byw mewn un lle. a diffyg awyru mewn nifer o dai hefyd achosi i鈥檙 salwch ledu.
Y colera yng Nghymru
Digwyddodd yr epidemigClefyd heintus sy鈥檔 lledaenu鈥檔 gyflym i nifer fawr o bobl mewn cyfnod byr iawn. colera mawr cyntaf i daro de Cymru yn 1832. Cafodd ardaloedd Rhymni, Nant-y-glo a Chefn Golau eu heffeithio鈥檔 wael a bu farw 203 o bobl yn Nhredegar yn unig.
Yn 1849, effeithiodd yr afiechyd ar dref Merthyr yn wael. Bu鈥檔 flwyddyn o sychder ac arweiniodd hyn at brinder d诺r gl芒n. Merch bedair mlwydd oed oedd y cyntaf i farw o鈥檙 colera ym Merthyr ym mis Mai 1849. Erbyn misoedd yr haf, roedd 36 o bobl yn marw bob dydd ar gyfartaledd. Roedd yna 1,682 farwolaethau o achos colera ym Merthyr y flwyddyn honno.
Effeithiodd y clefyd ar Gaerdydd yn yr un flwyddyn, a bu farw 382 o bobl. Roedd llawer o boblogaeth Caerdydd yn derbyn eu d诺r yfed o Gamlas Morgannwg a oedd wedi ei lygru gan sbwriel a charthffosiaeth.
Cafodd Thomas Webster Rammell, arolygydd a oedd yn arwain gwaith y Bwrdd Iechyd, ei gyflogi i ysgrifennu adroddiad yn 1849-50. Yn ei adroddiad, roedd yn dadlau mai gorboblogi a diffyg d诺r yfed oedd prif achosion y colera yng Nghaerdydd. Yn yr adroddiad cyfeiriodd at:
d欧 yn Stryd Stanley lle roedd 54 o bobl yn byw mewn dim ond pedair ystafell - doedd gan y plant ddim gwelyau ac roedd yn rhaid iddyn nhw gysgu mewn bocsys gyda phlant eraill
mwydod yn y d诺r mewn ffynnon yn Stryd Mary Ann
adeiladau Waterloo, lle roedd 11 neu 12 o gartrefi yn rhannu dim ond dau d欧 bach
Er gwaethaf yr adroddiad yma ar Gaerdydd, parhaodd colera i fod yn broblem hyd at y 1880au. Agorodd ysbyty ar Ynys Echni a oedd yn benodol ar gyfer cleifion yn dioddef o colera. Ar 8 Medi 1884, cafodd tri llongwr o Marseilles eu cludo i鈥檙 ynys am eu bod yn dioddef o鈥檙 clefyd.
Y ffliw Sbaenaidd
Digwyddodd epidemig y ffliw Sbaenaidd rhwng 1918 a 1919, ac er gwaetha鈥檙 enw, cafodd yr achosion cyntaf eu nodi yn Unol Daleithiau America ac yna Ffrainc, Yr Almaen a Phrydain. Mae amcangyfrifonDyfalu maint neu rif penodol. gwahanol o faint o bobl gafodd eu lladd, gyda ffigyrau yn amrywio o 17 i 50 miliwn dros bedwar cyfnod gwahanol o鈥檙 salwch.
Dechreuodd y pandemig ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd y newyddion am y ffliw ei gadw鈥檔 dawel er mwyn osgoi effeithio ar ysbryd pobl yn dilyn y rhyfel. Papurau newyddion yn Sbaen, gwlad nad oedd yn rhan o鈥檙 rhyfel, oedd y cyntaf i adrodd am y ffliw. Dyma pam gafodd y salwch ei enw.
Y ffliw Sbaenaidd yng Nghymru
Effeithiodd y ffliw ar Gymru fwyaf yn ystod yr ail don, ac mae cofnod o 144 o farwolaethau yn y Rhondda ym mis Gorffennaf 1918. Dioddefodd ardaloedd diwydiannol de Cymru yn wael o鈥檙 clefyd gan fod y boblogaeth yn byw yn agos at ei gilydd. Cafodd ardaloedd gwledig eu heffeithio鈥檔 wael gan y pla, hefyd. Y gyfradd uchaf o farwolaethau a gafodd ei chofnodi yng Nghymru yn ystod cyfnod yr epidemig oedd yn hen Sir Gaernarfon.
Cyhoeddodd papur newydd y Cambrian Journal fod 349 o farwolaethau yn Sir Gaerfyrddin yn Ionawr 1919, sy鈥檔 dangos fod pob ardal yng Nghymru wedi teimlo effaith y ffliw Sbaenaidd. Mae鈥檔 tebyg bod tua 11, 400 o bobl wedi marw o鈥檙 ffliw yng Nghymru.
Beth yw sefyllfa clefydau heddiw?
Mae pandemig Covid-19 wedi dangos bod datblygiadau meddygol sylweddol wedi bod megis brechlynnau i ddelio gydag afiechydon. Yn ogystal 芒 hyn, mae cynllunio effeithiol o ran cartrefi a safonau glendid wedi atal llawer o afiechydon, megis colera, rhag ailymddangos. Mae colera yn dal i鈥檞 weld mewn rhai rhannau o鈥檙 byd megis Affrica, de ddwyrain Asia a Haiti.
Er bod ymchwil a datblygiadau meddygol wedi gwella鈥檙 ffordd mae clefydau鈥檔 cael eu trin yn sylweddol, mae tebygrwydd rhwng effaith pandemig Covid-19 ac effeithiau clefydau hanesyddol, ee nifer uwch o bobl h欧n yn cael eu lladd, diffyg brechlyn i rwystro鈥檙 clefyd ar y dechrau ac effaith negyddol ar yr economi.
Cwis - Clefydau
More on Chwyldro
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3