Roedd y Tuduriaid yn llinachPerthyn i deulu, ee roedd Harri VIII yn rhan o linach y Tuduriaid. frenhinol a oedd yn rheoli Cymru a Lloegr rhwng 1485 a 1603. Roedd y teulu鈥檔 cynnwys rhai o鈥檙 brenhinoedd a鈥檙 breninesau mwyaf enwog yn hanes Cymru a Lloegr.
- Harri VII - 1485-1509
- Harri VIII - 1509-47
- Edward VI - 1547-53
- Mari I - 1553-58
- Elisabeth I - 1558-1603
Yn ystod y 118 mlynedd roedden nhw鈥檔 rheoli, cafodd newidiadau gwleidyddol, crefyddol, economaidd a chymdeithasol anferthol eu rhoi ar waith yng Nghymru a Lloegr.
Fideo - Y Tuduriaid
Erbyn 1485, roedd rhyfeloedd ffyrnig wedi bod yn cael eu hymladd am goron Lloegr am bron i 30 mlynedd. Roedd dau deulu yn brwydro am yr hawl i reoli鈥檙 wlad, sef teulu鈥檙 Lancastriaid a oedd yn defnyddio symbol y rhosyn coch, a theulu鈥檙 Iorciaid a oedd yn defnyddio symbol y rhosyn gwyn. O ganlyniad, cafodd y rhyfeloedd eu galw鈥檔 Rhyfeloedd y Rhosynnod.
Harri VII - 1485-1509
Roedd Harri VII, neu Harri Tudur, yn perthyn i deulu鈥檙 Lancastriaid. Roedd yn Gymro a gafodd ei eni yng nghastell Penfro ar 28 Ionawr 1457.
Ei fam oedd Margaret Beaufort a鈥檌 dad oedd Edmund Tudur o Benmynydd, Ynys M么n. Roedd Harri yn un o disgynnyddPerson sy鈥檔 rhan o llinell uniongyrchol teulu, ee plentyn, 诺yr neu wyres. Edward III a oedd yn Frenin Lloegr rhwng 1327 a 1377. Roedd e鈥檔 credu bod hyn yn golygu bod ganddo hawl i鈥檙 orsedd.
Yn Mehefin 1483, cafodd Rhisiart III o deulu鈥檙 Iorciaid ei goroni鈥檔 Frenin Lloegr. Roedd Harri Tudur eisoes wedi dianc i Lydaw, ond roedd cefnogaeth frwd iddo ddychwelyd i gipio鈥檙 goron.
Brwydr Harri Tudur am y goron
Yn Awst 1485, hwyliodd Harri Tudur oedd yn 28 oed mlwydd oed, o borthladd Harfleur yn Ffrainc gyda byddin o 2,000 o filwyr Ffrengig a glanio yn Bae鈥檙 Felin, Dale yn Sir Benfro llai na phythefnos yn ddiweddarach. Mae鈥檔 bosib ei fod wedi glanio fan hyn am fod cefnogaeth frwd i deulu鈥檙 Tuduriaid yn yr ardal. Roedd ei ewythr, Siasper Tudur, wedi cadw mewn cysylltiad gyda phobl yno.
Roedd Rishiart III yng nghastell Nottingham pan glywodd bod Harri wedi glanio, a鈥檌 ymateb oedd i wneud dim. Cymerodd yn ganiataol y byddai prif tirfeddianwyrPobl gyfoethog sy鈥檔 berchen ar lawer o dir mewn gwlad. Cymru yn gweld Harri fel bygythiad ac yn ymosod arno.
Ond wnaeth hyn ddim digwydd. Cymerodd Harri lwybr annisgwyl drwy ganolbarth Cymru er mwyn cyrraedd Lloegr i hawlio鈥檙 goron. Ei fwriad oedd cael pobl leol i鈥檞 gefnogi, a chafodd groeso cynnes yn Hwlffordd, sef y dref fawr gyntaf ar ei daith.
Teithiodd Harri drwy ganolbarth Gymru gan gasglu milwyr a chefnogwyr ar ei ffordd i ymladd yn erbyn Rhisiart. Ar yr un pryd, teithiodd Syr Rhys ap Tomos, un o Arglwyddi Gwent, i gwrdd 芒 Harri i鈥檞 helpu gyda鈥檌 fyddin o 2,000 o ddynion.
Erbyn i鈥檙 ddau gyrraedd y Trallwng, roedd gan Harri tua 5,000 o filwyr i frwydro鈥檔 erbyn Rhisiart III.
Brwydr Bosworth
Roedd Brwydr Bosworth yn un o鈥檙 brwydrau pwysicaf yn hanes Cymru a Lloegr.
Ar 么l clywed am lwyddiant Harri yn recriwtio milwyr, dechreuodd y Brenin Rhishiart III gasglu ei fyddin Iorcaidd o 10,000 o ddynion yng Nghaerl欧r. Fe wnaeth y ddwy fyddin gwrdd ger Bosworth.
Enillodd byddin Harri鈥檙 frwydr gyda help milwyr o Gymru. Fe hawliodd y goron a daeth yn Frenin Harri VII. Priododd Elisabeth, a oedd yn dod o deulu鈥檙 Iorciaid, a llwyddodd i uno鈥檙 Lancastriaid a鈥檙 Iorciaid drwy鈥檙 briodas. Cafodd petalau gwyn eu hychwanegu i rosyn coch y Lancastriaid i greu Rhosyn Tudur.
Harri VIII - 1509-1547
Yn dilyn marwolaeth Harri VII, daeth ei fab Harri VIII yn frenin.
Roedd yn enwog am ei chwe gwraig sef:
- Catrin o Arag贸n - ysgariadPriodas sy鈥檔 dod i ben yn gyfreithlon.
- Ann Boleyn - pendoriadTorri pen rhywun i ffwrdd.
- Jane Seymour - bu farw tra roedd yn briod 芒 Harri
- Ann o Cleves - ysgariad
- Catrin Howard - pendoriad
- Catrin Parr - bu farw ar 么l i Harri farw
Deddfau Uno
Er mwyn gallu rhoi trefn ar bethau a gwthio ffydd Brotestannaidd newydd Harri ymhellach, cafodd Deddfau Uno eu pasio gan senedd Lloegr yn 1536 ac 1543. Nod y deddfau oedd uno Cymru a Lloegr o ran iaith, arferion a gweinyddiaeth.
Roedd y Deddfau yn:
- rhannu Cymru yn 13 o siroedd
- rhoi 27 o aelodau seneddol i Gymru
- dileu'r hen gyfreithiau Cymreig a rhoi cyfreithiau Seisnig yn eu lle
- sefydlu llysoedd i helpu cadw cyfraith a threfn
- gwneud Saesneg yn unig iaith swyddogol Cymru
Crefydd
Er i Harri VIII fod yn briod 芒鈥檌 wraig, Catrin o Aragon am 24 o flynyddoedd, penderfynodd yn 1533 ei fod eisiau ysgariad gan nad oedd wedi cael mab ganddi.
Doedd y Pab, arweinydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ddim yn fodlon i Harri ddod 芒鈥檌 briodas i ben. Felly, penderfynodd Harri dorri鈥檔 rhydd o鈥檙 Eglwys Gatholig a sefydlu Eglwys Lloegr yn lle.
O dan y drefn newydd hon, trodd y wlad yn Brotestannaidd a Harri VIII oedd arweinydd yr Eglwys. Roedd yn ystyried ei hun fel llais gorchmynion Duw ar y Ddaear.
Dros weddill cyfnod y Tuduriaid, bu anrhefn wrth i grefydd y wlad newid yn 么l ac ymlaen rwng Protestaniaeth a Chatholigiaeth gan arwain at wrthryfela ffyrnig.
Edward VI - 1547-53
Plentyn 9 mlwydd oed oedd Edward VI pan ddaeth yn frenin Lloegr, yn dilyn marwolaeth ei dad, Harri VIII.
Gan mai plentyn oedd Edward, roedd y wlad yn cael eu llywodraethu gan cyngor rhaglywiaethCyngor o uchelwyr sy鈥檔 helpu ac yn arwain brenin neu frenhines ifanc yn eu teyrnasiad. oedd yn cael ei arwain gan ei ewythr, Edward Seymour ac yna鈥檔 ddiweddarach gan John Dudley.
Trodd y wlad yn fwy Protestannaidd yn ystod ei teyrnasiadCyfnod o amser yn rheoli gwlad. a chafodd Llyfr Gweddi Cyffredin ei gyflwyno, a oedd yn cynnwys y drefn newydd ar gyfer gwasanaethau crefyddol i ddisodli鈥檙 hen arferion Catholig.
Mari I - 1553-58
Bu Mari鈥檔 byw yn bennaf yn ne a dwyrain Lloegr, heblaw am y dair blynedd a dreuliodd yng Nghymru fel plentyn.
Fe wnaeth Mari droi鈥檙 wlad yn 么l i fod yn wlad Gatholig. Roedd hi鈥檔 anghyfreithlon i fod yn Brotestant yn ystod ei theyrnasiad.
Cafodd dau Brotestant eu llosgi am heresiGwrthod credoau crefyddol y brenin neu鈥檙 frenhines, neu鈥檙 wlad, neu anghytuno gyda nhw., sef yr Esgob William Ferrar yng Nghaerfyrddin a鈥檙 pysgotwr, Rawlins White yng Nghaerdydd.
Elisabeth I - 1558-1603
Yn wahanol i鈥檞 llys-chwaer, Mari, roedd Elisabeth yn Brotestant brwd. Unwaith daeth hi鈥檔 frenhines, newidiodd grefydd y wlad unwaith eto i fod yn Brotestannaidd.
Mae Elisabeth yn cael ei chofio鈥檔 bennaf yng Nghymru am ei gorchymyn i gyfieithu鈥檙 Beibl i鈥檙 Gymraeg.
Yn 1536, roedd Elisabeth yn poeni fod y Cymry yn parhau i fod yn ffydlon i grefydd Catholig ei llys-chwaer Mari, felly mynodd y dylai鈥檙 Beibl fod ar gael yn iaith frodorol y Cymry.
Erbyn 1588, roedd William Morgan wedi cyflanwi鈥檙 dasg o gyfieithu鈥檙 Beibl cyfan i'r Gymraeg.
Gweithgaredd - Y Tuduriaid
Cwis - Y Tuduriaid
More on Chwyldro
Find out more by working through a topic
- count2 of 3
- count3 of 3