成人快手

Meintiau a phellteroedd yn y gofod

Rydyn ni鈥檔 mesur diamedrau planedau mewn metrau a chilometrau.

Rydyn ni鈥檔 mesur pellteroedd rhwng y planedau a鈥檙 Haul mewn US (Unedau Seryddol).

1 US yw鈥檙 pellter cyfartalog rhwng y Ddaear a鈥檙 Haul ac mae oddeutu 150,000,000 km (neu 1.5 脳 1011 m).

Edrych ar y diagram hwn. Os wyt ti鈥檔 cynnau鈥檙 tortsh, bydd y golau ohono鈥檔 teithio 9,460,730,472,580,800 metr (naw mil pedwar cant chwe deg triliwn, saith cant tri deg biliwn, pedwar cant saith deg dau miliwn, pum cant wyth deg mil, wyth cant) mewn blwyddyn. Rydyn ni鈥檔 galw鈥檙 pellter hwn yn .

Mae tortsh yn taflu pelydr o olau. Mae pen y pelydr wedi鈥檌 labelu ag 鈥楢r 么l un flwyddyn鈥. Y pellter mae鈥檙 pelydr wedi鈥檌 deithio ar 么l un flwyddyn yw 9,460,730,472,580,800 metr neu un flwyddyn golau.
  • Un flwyddyn golau yw鈥檙 pellter mae golau鈥檔 ei deithio mewn un flwyddyn.
  • Mae buanedd golau, a phob ton electromagnetig arall, yn 300,000,000 m/s (neu 3 脳 108 m/s) mewn gofod. Dyma fuanedd golau.

I gyfrifo pellter un flwyddyn golau mewn metrau mae angen lluosi:

365 diwrnod (un flwyddyn) 脳

24 awr (un diwrnod) 脳

60 munud (un awr) 脳

60 eiliad (un munud) 脳

300,000,000 m/s (buanedd golau yn y gofod).

Mae hyn i gyd yn rhoi 9.46 脳 1015 m.

O鈥檙 Ddaear i -Pellter
Y Lleuad1.3 eiliad golau
Yr Haul8.3 munud golau
Alpha Centauri4.4 blwyddyn golau
Hercules Globular (M 13)25,000 blwyddyn golau
Galaeth Andromeda2.5 miliwn blwyddyn golau
O鈥檙 Ddaear i -Y Lleuad
Pellter1.3 eiliad golau
O鈥檙 Ddaear i -Yr Haul
Pellter8.3 munud golau
O鈥檙 Ddaear i -Alpha Centauri
Pellter4.4 blwyddyn golau
O鈥檙 Ddaear i -Hercules Globular (M 13)
Pellter25,000 blwyddyn golau
O鈥檙 Ddaear i -Galaeth Andromeda
Pellter2.5 miliwn blwyddyn golau

Question

Mae Alpha Centauri 4.4 blwyddyn golau oddi wrthyn ni. Alli di gyfrifo鈥檙 pellter hwn mewn metrau?

Question

Mae Galaeth Andromeda 2.5 miliwn blwyddyn golau oddi wrth y Ddaear. Pa mor hir mae鈥檔 ei gymryd i olau o鈥檙 alaeth hon gyrraedd y Ddaear?

Question

Mae鈥檔 cymryd 1.3 eiliad i olau laser sydd wedi鈥檌 danio o鈥檙 Ddaear i daro鈥檙 Lleuad. Pa mor bell i ffwrdd yw鈥檙 Lleuad?