成人快手

Aneurin Bevan a sefydlu鈥檙 GIG

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Ar ddechrau鈥檙 Ail Ryfel Byd sylweddolodd y llywodraeth bod angen iddo gynyddu鈥檙 gwariant ar ofal iechyd er mwyn ymdopi 芒鈥檙 cynnydd enfawr disgwyliedig yn nifer y cleifion. Dechreuodd gynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd.

Yn 1942, lluniodd gwas sifil o鈥檙 enw William Beveridge adroddiad, sef Adroddiad Beveridge, oedd yn datgan pum drwg mawr 鈥 eisiau, afiechyd, anwybodaeth, budreddi a segurdod. Wrth nodi bod afiechyd yn atal cynnydd, cynigiodd wasanaeth iechyd gwladol am ddim.

Yn 1946, bu i鈥檙 llywodraeth Lafur newydd basio Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd y model a ddefnyddiwyd yn seiliedig ar yr un a ddefnyddiwyd yn Nhredegar yn y 1930au, oedd yn debyg i fersiwn gynnar, leol o鈥檙 GIG. Ond, roedd yn rhaid i鈥檙 Gweinidog Iechyd, Aneurin Bevan, oedd yn AS Tredegar, weithio鈥檔 galed i oresgyn gwrthwynebiad i sefydlu鈥檙 GIG.

  • Y , oedd yn ofni y byddai meddygon a gyflogid gan y GIG yn colli incwm.
  • Roedd nifer o awdurdodau lleol a chyrff gwirfoddol oedd yn rhedeg ysbytai yn gwrthwynebu hefyd oherwydd eu bod yn ofni y bydden nhw'n colli rheolaeth arnyn nhw.
  • Roedd nifer o bobl megis Winston Churchill a nifer o ASau Ceidwadol yn credu y byddai cost y GIG yn rhy uchel.

5 Gorffennaf 1948

Er gwaetha鈥檙 holl wrthwynebiad, sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar 5 Gorffennaf 1948. Roedd yn rhan o gyfres o ddiwygiadau oedd yn amcanu at ddefnyddio arian trethi i ddarparu cymorth o鈥檙 crud i鈥檙 bedd. Yn nhermau gofal iechyd, bu i鈥檙 GIG arwain at nifer o newidiadau i system iechyd Prydain. Roedden nhw'n cynnwys:

  • triniaeth feddygol am ddim i holl ddinasyddion Prydain
  • gwladoli ysbytai o dan y Weinyddiaeth Iechyd a鈥檜 trefnu鈥檔 awdurdodau iechyd rhanbarthol
  • creu canolfannau iechyd er mwyn darparu gwasanaethau megis brechu, gofal mamolaeth, nyrsys ardal ayb.
  • gwell gwasgariad o feddygon o gwmpas y wlad gyda meddygon teulu, optegwyr a deintyddion ym mhob ardal

Ers creu鈥檙 GIG yn 1948, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ansawdd gofal iechyd a disgwyliad oes ym Mhrydain. Ond, mae ei lwyddiannau, yn arbennig o ran codi disgwyliad oes, wedi helpu i greu problemau newydd.

Llwyddiant y GIG

  • Mae鈥檙 GIG wedi sicrhau bod gofal iechyd yn hygyrch i bawb.
  • Mae鈥檙 GIG wedi gwneud cyfraniad mawr i godi disgwyliad oes yn y DU.
  • Bu gostyngiad parhaus yn nifer marwolaethau plant a marwolaethau ymysg mamau.
  • Bu datblygiadau meddygol arloesol mewn sawl maes, ee trawsblaniadau, trin canser ayb.
  • Mae ystod eang o wasanaethau ar gael, ee sgrinio am ganser, clinigau asthma ayb.
  • Bu pwyslais cynyddol ar feddyginiaeth ataliol, ee brechu torfol yn erbyn amrywiaeth o glefydau ac ymgyrchoedd iechyd, ee er mwyn lleihau ysmygu.
  • Mae'r GIG wedi lleihau鈥檙 pwysau yr oedd llawer o fenywod yn ei deimlo fel prif ofalwyr.
Gwasanaethau鈥檙 GIG: Arbenigwyr, Trallwysiad gwaed, Ysbytai, Mamolaeth a lles plant, Brechiadau, Ymwelwyr Iechyd, nyrsio yn y cartref ac 么l-ofal bobl s芒l, Ambiwlansys, Meddygon Teulu, Canolfan Iechyd.

Problemau sy鈥檔 wynebu鈥檙 GIG

  • O鈥檌 ddechreuad yn 1948 mae鈥檙 gost o ddarparu gofal wedi codi, ac mae hynny wedi rhoi pwysau ar gyllidebau鈥檙 GIG.
  • Nid yw鈥檙 GIG erbyn hyn yn gyfan gwbl am ddim. Cyflwynwyd t芒l am bresgripsiynau mor gynnar 芒 1952. Ers hynny codwyd t芒l am wasanaethau eraill, ee profion llygaid a thriniaeth ddeintyddol. Ailgyflwynwyd presgripsiynau am ddim yng Nghymru yn 2007.
  • Mae prinder arian yn golygu bod yna restrau aros am nifer o lawdriniaethau erbyn hyn. Gwrthodir gwasanaethau a meddyginiaethau costus i rai pobl.
  • Wrth i ddisgwyliad oes godi mae poblogaeth sy鈥檔 heneiddio wedi rhoi mwy o bwysau ar y GIG.