成人快手

Dechrau鈥檙 Wladwriaeth Les

Erbyn dechrau鈥檙 20fed ganrif, roedd gan y rhan fwyaf o ardaloedd Prydain rhyw fath o ddarpariaeth ysbyty. Ond, roedd y system yn ddarniog. Roedd rhai yn ysbytai preifat oedd yn codi ffioedd, roedd rhai yn ysbytai gwirfoddol oedd yn cael eu rhedeg gan elusennau, tra bod eraill wedi cael eu sefydlu gan gynghorau lleol. Yn aml, y llefydd oedd 芒鈥檙 angen mwyaf am ysbytai oedd y llefydd ble鈥檙 oedd y ddarpariaeth ar ei gwanaf, ee ni adeiladwyd yr ysbyty cyntaf yng Nghwm Rhondda tan 1887, gyda dim ond 4 gwely ar gyfer 100,000 o drigolion.

Yn raddol dechreuodd yr agwedd hon newid, ac yn ystod y blynyddoedd a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf, bu i lywodraethau Rhyddfrydol 1906鈥1914 gyflwyno cyfres o ddiwygiadau lles er mwyn helpu pobl oedd yn mynd i drafferthion oherwydd salwch, henaint neu ddiweithdra. Gellir olrhain tarddiad y wladwriaeth les i鈥檙 cyfnod hwn.

Cynllun Yswiriant Cenedlaethol 1911

Mewn perthynas 芒 gofal meddygol, y pwysicaf o鈥檙 diwygiadau hyn oedd y Cynllun Yswiriant Cenedlaethol, a sefydlwyd gan David Lloyd George, Canghellor y Trysorlys. Roedd gweithwyr, cyflogwyr a鈥檙 llywodraeth yn cyfrannu. Bu i Lloyd George addo 9d am 4d. Gwerth 9d o sicrwydd am y 4d a dalai鈥檙 gweithwyr.

Roedd y cynllun yn darparu gofal meddygol am ddim a budd-daliadau salwch petaen nhw'n cael eu taro鈥檔 wael. Er bod hwn yn gam mawr ymlaen, roedd yn gyfyngedig. Roedd ond yn cynnwys rhai galwedigaethau, ac nid oedd yn cynnwys teuluoedd y rhai oedd yn talu, yr henoed neu鈥檙 bobl oedd 芒 salwch hirdymor.

Yn 1920, estynnwyd y cynllun i gynnwys pob gweithiwr oedd yn ennill hyd at 拢250 y flwyddyn (ac eithrio gweithwyr fferm a gweision domestig) ond nid oedd teuluoedd yn gynwysedig o hyd. Bu i nifer o bobl elwa o鈥檙 cynllun, ond yn ystod Dirwasgiad y 1930au rhoddwyd pwysau sylweddol arno.

Wrth i ddiweithdra godi i dros 3,000,000, nid oedd pobl yn gallu parhau i gyfrannu i鈥檙 cynllun. Bu i鈥檙 llywodraeth hefyd dorri ei gyfraniadau i鈥檙 cynllun, oedd yn lleihau effeithlonrwydd y cynllun.

I nifer o deuluoedd yn ardaloedd tlotaf Prydain, bu i ansawdd gofal iechyd ddirywio yn y 1930au, oherwydd ni allai pobl fforddio gofal meddygol. Mewn ardaloedd megis cymoedd de Cymru, er enghraifft, bu cynnydd yn nifer marwolaethau plant.