成人快手

R么l yr Eglwys a鈥檙 mynachlogydd

Roedd yr Eglwys yn chwarae r么l flaenllaw o ran gofal cleifion yn yr Oesoedd Canol. Roedd yr Eglwys yn dysgu bod gofalu am bobl wael yn rhan o ddyletswydd Gristnogol, a鈥檙 Eglwys oedd yn darparu gofal ysbyty. Roedd yr Eglwys hefyd yn ariannu鈥檙 prifysgolion, ble鈥檙 oedd meddygon yn cael eu hyfforddi.

Ysbytai H么tel-Dieu de Paris
Image caption,
Ysbytai H么tel-Dieu de Paris. Dyma un o鈥檙 ychydig luniau o du mewn i ysbyty canoloesol

Roedd tua 1,200 o lefydd yng Nghymru a Lloegr oedd yn disgrifio eu hunain fel 'ysbytai'. Roedd bron bob un yn cael eu rhedeg gan yr eglwys. Roedd nifer yn glafdai mewn mynachlogydd, ee Tyndyrn, Glyn y Groes ac Ystrad Fflur, neu dai crefyddol eraill, ee ffrierdai Caerdydd a Bangor.

Ond, roedd yr ysbytai canoloesol yma yn wahanol iawn i ysbytai modern.

  • Roedden nhw'n cael eu rhedeg gan fynaich neu leianod ac roedd lles ysbrydol claf yr un mor bwysig 芒鈥檌 anghenion meddygol.
  • Gwybodaeth feddygol elfennol yn unig oedd gan y mynachod (er mae鈥檔 debyg mai nhw oedd y bobl fwyaf cymwys i wneud y gwaith).
  • Roedd rhai pobl yn cael eu gwahardd, ee rhai 芒 chlefydau ymledol, , y gwallgof a chripiliaid. Credid y byddai鈥檙 rhain yn heintio eraill.

Ysbytai canoloesol

Siart cylch yn dangos sut y defnyddiwyd ysbytai canoloesol 鈥 10% i ofalu am bobl s芒l, 47% yn gartref i鈥檙 henoed a鈥檙 tlawd, 12% yn helpu pererinion a theithwyr tlawd, 31% fel ysbytai i鈥檙 gwahanglwyfus.

Mae鈥檙 siart yma yn dangos mai dim ond 10 y cant o ysbytai canoloesol oedd yn gofalu am gleifion yn y ffordd y mae ysbytai modern yn gwneud hynny. Roedden nhw'n cael eu galw yn ysbytai oherwydd eu bod yn darparu lletygarwch (hospitality), hynny yw roedden nhw'n llefydd i orffwys a gwella. Mewn gwirionedd oedd y rhan fwyaf o鈥檙 ysbytai ar gyfer yr henoed a鈥檙 eiddil, oedd yn darparu nyrsio elfennol, ond dim triniaeth feddygol. Roedd ysbytai eraill, ee Ysbyty Ifan yng Nghlwyd wedi eu lleoli ar lwybrau pererindod pwysig ac wedi cael eu sefydlu i fod yn westai ar gyfer pererinion.

Bimaristan

Mae鈥檔 ymddangos bod gofal meddygol gan ffisigwyr neu feddygon wedi bod yn brin mewn ysbytai canoloesol. Roedd yna ambell gyfeiriad at ddarpariaeth o鈥檙 fath mewn ysbytai yn Llundain yn ystod diwedd yr Oesoedd Canol, ac yn 1524, er enghraifft, disgwylid bod gan Ysbyty Savoy Harri VII (a sefydlwyd gan y brenin yn 1505) feddyg a llawfeddyg.

Yn yr Oesoedd Canol, roedd y byd Islamaidd ymhell ar y blaen o ran darpariaeth ysbytai. Yn y 1100au roedd yna 60 bimaristan - gair Persaidd sy鈥檔 golygu ysbyty - yn Baghdad, pan mai dim ond un oedd yn Llundain. Roedden nhw'n gwasanaethu pobl beth bynnag fo鈥檜 hil, crefydd, dosbarth neu ryw, ac roedd wardiau ar wah芒n ar gyfer gwahanol afiechydon - clefydau meddyliol, clefydau ymledol, clefydau anymledol, llawfeddygaeth a chlefyd y llygaid, ac roedd hynny yn rhywbeth hollol ddieithr yn Ewrop yn y cyfnod.

Roedd pob bimaristan yn cynnwys cegin, fferyllfa, llyfrgell, mosg, a chapel yn achlysurol ar gyfer cleifion Cristnogol. Yn aml roedd cerddorion yn cael eu cyflogi i gysuro a chodi calon cleifion. Roedden nhw hefyd yn ysgolion meddygol ar gyfer hyfforddi myfyrwyr.