Ynganiad a seinio
Ystyr ynganu ydy pa mor glir ydy鈥檙 llais. Pan fydd actorion yn ynganu鈥檔 dda, maen nhw'n llefaru eu holl eiriau'n glir. Er mwyn gallu gwneud hyn mae'n rhaid i ti allu 蝉别颈苍颈辞鈥档 dda, sef y gallu i fynegi pob sain a chytsain yn glir. Mae'n bwysig nad ydy llythrennau unigol yn mynd ar goll o fewn y geiriau a鈥檜 bod yn cael eu 蝉别颈苍颈辞鈥档 gywir.
Mewn awditoriwm theatr mae angen i鈥檙 sain mae鈥檙 actor yn ei chynhyrchu deithio鈥檔 dda. Mae cytseiniaid yn mynd ar goll yn hawdd, fel y llythyren 鈥榯鈥 a 鈥榙鈥 ar ddiwedd neu ganol gair sy鈥檔 gallu effeithio ar eglurder.
Cyhyr ydy鈥檙 tafod. Fel unrhyw gyhyr arall yn y corff rwyt ti鈥檔 gallu ei hyfforddi i fod yn gryfach a symud i greu seiniau鈥檔 gywir a chyflym. Mae tafod diog yn golygu y bydd dy leferydd yn swnio鈥檔 ddiog ac efallai y bydd y gynulleidfa鈥檔 cael trafferth deall yr hyn rwyt ti鈥檔 ei ddweud, yn enwedig os wyt ti鈥檔 siarad yn gyflym.
Nid y tafod ydy鈥檙 unig beth sy鈥檔 bwysig wrth 蝉别颈苍颈辞鈥档 effeithiol; mae rhan bwysig gan dy wefusau i鈥檞 chwarae hefyd wrth seinio llythrennau.
Seiniau ffrwydrol ydy seiniau fel b-y a p-y (B a P). Maen nhw鈥檔 gwneud sain ffrwydrol wrth gael eu rhyddhau o鈥檙 gwefusau. Mae鈥檔 bwysig bod dy wefusau鈥檔 gryf er mwyn i鈥檙 seiniau ffrwydrol fod yn glir. Os ydyn nhw鈥檔 wan fydd dy eiriau ddim yn hedfan allan i鈥檙 awditoriwm gyda digon o rym neu egni i fod yn effeithiol.