成人快手

Defnyddio dy laisYmarferion anadlu

Ystyria yr holl elfennau lleisiol sydd ar gael i ti eu defnyddio. Meddylia am acen a natur dy gymeriad, a'r math o berfformiad sydd ei angen. Gallai ymarfer a gwella dy ynganiad a dy anadlu.

Part of DramaSgiliau perfformio

Ymarferion anadlu

Rho dy law ar dy , o dan dy asennau. Anadla鈥檔 ddwfn drwy dy drwyn, gan wneud yn si诺r nad wyt ti鈥檔 tynhau nac yn codi dy ysgwyddau. Dylet ti deimlo dy lengig yn cyfangu.

Saf gyda dy draed lled dy gluniau ar wah芒n gan ddal dy ben-么l i mewn. Gyda dy law ar dy lengig anadla i mewn drwy dy drwyn a chyfra bum eiliad, dal yr anadl am ddeg eiliad ac yna anadlu allan yn araf trwy dy geg gan gyfrif pum eiliad. Ymarfera gwthio鈥檙 anadl allan am gyfnod hirach ac yna gyda sain llafariad megis aaa, oo neu ee.

Gwna鈥檙 un peth ond cyfra鈥檔 uchel gyda llais clir a chadarn mor bell ag y galli di fynd. Pan fyddi di wedi dod i ben draw鈥檙 anadl, dylet ti deimlo anadl newydd yn dod i鈥檞 le鈥檔 naturiol.

Gorwedda ar dy gefn gan ganolbwyntio鈥檔 llwyr ar dy anadlu. Wrth i鈥檙 anadl ryddhau, gwna sain mwmian ar nodyn parhaus heb ei orfodi. Rho gynnig ar wneud hyn am gyfnod hirach pob tro.

Rho dy law ar dy lengig ac anadla鈥檔 fas fel ci. Wrth i ti wneud hyn am beth amser fe deimli di鈥檙 cyhyr yn dechrau brifo. Mae hwn yn ymarfer rhagorol ar gyfer cryfhau dy lengig.

Cyseiniant

I bob pwrpas, mae dy gorff yn uchelseinydd mawr. Os byddi di鈥檔 ei gynhyrchu鈥檔 iawn a heb densiwn, bydd y sain rwyt ti鈥檔 ei wneud yn dirgrynu yn dy gorff fel ei fod yn gyfoethog, yn llawn ac yn teithio鈥檔 dda. Mae dwy brif ardal cyseiniant yn y corff.

Cyseiniant y frest

Dyma lle mae鈥檙 sain yn dirgrynu yn dy frest. Mae nodau 芒 thraw isel yn tueddu i gyseinio yma. Gwna sain mwmian ac yna ei agor i greu sain llafariad. Chwaraea gyda鈥檙 sain, gan ei droi鈥檔 么l yn fwmian yn rheolaidd. Cadwa dy law ar dy frest wrth i ti wneud hyn. Dylet ti deimlo鈥檙 sain yn dirgrynu. Arbrofa gydag ystod o nodau a seiniau nes i ti deimlo hyn yn digwydd.

Cyseiniant y pen

Dyma lle mae鈥檙 nodau uwch yn cyseinio. Gwna sain mwmian parhaus 芒 thraw uchel a rho dy law ar dy dalcen, ychydig yn uwch na dy drwyn, wrth wneud. Ceisia ddychmygu鈥檙 sain yn llenwi鈥檙 ardal honno a gwthia鈥檙 sain ymlaen. Teimla o gwmpas dy wyneb, dy wddf a thop dy ben i weld lle mae鈥檙 sain yn dirgrynu. Gwna鈥檙 ymarferion hyn i sicrhau llais sy鈥檔 gryf, 芒 th么n lawn sy鈥檔 ddymunol i wrando arni.

Related links