成人快手

Rheoli newidiadau yn yr atmosffer

Mae'r cynnydd yn lefelau carbon deuocsid a'r cynnydd cysylltiedig yn nhymheredd y byd yn debygol o achosi goblygiadau difrifol i'r Ddaear a phopeth sy'n byw arni os na wnawn ni rywbeth amdano, er enghraifft:

  • mwy o dywydd eithafol (a pheryglus) fel corwyntoedd, llifogydd a sychder (oherwydd hafau poethach)
  • cynnydd yn lefelau'r m么r yn arwain at foddi darnau mawr o dir
  • dinistrio cynefinoedd bywyd gwyllt, a allai arwain at ddifodiant

Gallwn ni gymryd rhai camau i geisio lleihau allyriadau carbon deuocsid.

Defnyddio llai o danwyddau ffosil

Gall llywodraethau, busnesau ac unigolion ddefnyddio llai o danwyddau ffosil mewn llawer o ffyrdd.

  • Defnyddio ffynonellau egni adnewyddadwy a niwclear yn lle llosgi glo, olew a nwy. Mae'r rhain yn cynnwys paneli solar, tyrbinau gwynt, tyrbinau llanw.
  • Ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint 芒 phosibl o ddefnyddiau fel bod angen llai o danwyddau ffosil i wneud defnyddiau newydd. Er enghraifft, dim ond tua pump y cant o'r egni sy'n cael ei ddefnyddio i wneud alwminiwm newydd sydd ei angen i'w ailgylchu, felly mae angen llai o danwyddau ffosil. Hefyd, mae plastigion yn cael eu gwneud o gemegion mewn olew crai, felly mae ailgylchu plastigion yn golygu defnyddio llai o olew crai.
  • Datblygu a defnyddio technoleg trafnidiaeth sy鈥檔 fwy effeithlon o ran tanwydd.
  • Defnyddio llai o egni yn y cartref, er enghraifft ynysu tai, troi'r gwres i lawr radd neu ddwy, defnyddio offer sy鈥檔 fwy effeithlon o ran egni, peidio 芒 gadael setiau teledu a pheiriannau gemau yn y modd segur ac ati.
  • Defnyddio trafnidiaeth dorfol, fel trenau a bysiau, yn lle ceir - neu rannu ceir lle bo hynny'n bosibl.

Ailgoedwigo

Mae darnau mawr o goedwigoedd glaw wedi cael eu torri yn y blynyddoedd diwethaf. Gan fod planhigion yn tynnu carbon deuocsid o'r atmosffer yn naturiol ac yn rhyddhau ocsigen, mae'n gwneud synnwyr plannu mwy o goed i geisio gwneud iawn am y golled hon. Fodd bynnag, mae hi'n anodd ailblannu pob coeden rydyn ni'n ei cholli ac rydyn ni'n dal i golli bron i 200,000 cilometr sgw芒r o dir coedwig bob blwyddyn.

Glanhau allyriadau tanwydd [Haen uwch yn unig]

Mae'n bosibl tynnu rhai o'r allyriadau niweidiol o danwyddau ffosil sy'n llosgi cyn iddyn nhw ddianc i'r atmosffer, ond dim ond ar gyfer allyriadau graddfa fawr fel rhai o orsafoedd trydan mae hyn yn effeithiol.

Enw'r ffordd fwyaf cyffredin o wneud hyn yw dal carbon. Mae hyn yn golygu dal y carbon deuocsid o'r nwyon gwastraff (fel arfer drwy hydoddi'r carbon deuocsid mewn hydoddydd arbennig) ac yna ei gludo i storfa ddiogel fel meysydd olew a nwy wedi disbyddu i'w adael am gyfnod amhenodol.

Hefyd, mae technegau ar gael i dynnu sylffwr deuocsid o nwyon gwastraff er mwyn lleihau glaw asid. Enw'r technegau hyn yw sgrwbio sylffwr ac maen nhw'n gallu tynnu dros 95 y cant o'r sylffwr deuocsid o nwyon gwastraff.

More guides on this topic