成人快手

Sylffwr deuocsid a glaw asid

Mae pob glaw'n asid gwan oherwydd bod carbon deuocsid wedi hydoddi ynddo. Fodd bynnag, mae rhai llygryddion sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer yn gallu achosi i'r glaw droi'n cryf.

Mae llawer o yn cynnwys amhureddau sylffwr. Wrth losgi'r tanwyddau hyn, mae'r sylffwr yn cael ei ocsidio i ffurfio sylffwr deuocsid.

S(s) + O2(n) 鈫 SO2(n)

Yna, mae'r sylffwr deuocsid hwn yn hydoddi mewn defnynnau d诺r glaw i ffurfio asid sylffwrig:

H2SO4

Pan mae tanwydd yn cael ei losgi mewn peiriannau cerbydau, mae'n cyrraedd tymheredd uchel. Ar y tymheredd uchel hwn, mae nitrogen ac ocsigen o'r aer yn cyfuno i gynhyrchu ocsidau nitrogen, sy'n cyfeirio at nifer o wahanol gyfansoddion sy'n ffurfio o adwaith cemegol nitrogen ac ocsigen.

Mae ocsidau nitrogen (y fformiwla ar gyfer y rhain gyda'i gilydd yw NOx) hefyd yn achosi .

Y fformiwla ar gyfer nitrogen monocsid a nitrogen deuocsid gyda'i gilydd yw NOx.

Effeithiau glaw asid

Mae glaw asid yn adweithio 芒 metelau a chreigiau fel calchfaen. Mae hyn yn achosi difrod i adeiladau a cherfluniau, yn enwedig rhai sydd wedi'u gwneud o galchfaen (calsiwm carbonad). Mae glaw asid hefyd yn cynyddu cyfradd cyrydu adeileddau metel fel pontydd a cherfluniau.

Mae glaw asid yn niweidio'r haen gwyraidd ar ddail coed ac yn ei gwneud hi'n anoddach i goed amsugno'r mwynau sydd eu hangen i dyfu'n iach. Gallan nhw farw o ganlyniad i hyn.

Mae glaw asid hefyd yn gwneud afonydd a llynnoedd yn rhy asidig i rai rhywogaethau dyfrol oroesi.

More guides on this topic