成人快手

Cynnal lefelau ocsigen a charbon deuocsid yn yr atmosffer

Mae canran yr ocsigen yn yr atmosffer wedi aros bron yn gyson am filoedd o flynyddoedd. Mae hyn oherwydd tair proses bwysig sy'n digwydd ar yr un pryd 芒'i gilydd, gan wrthbwyso unrhyw newidiadau.

  • Resbiradaeth 鈥 mae bron bob cell fyw'n defnyddio ocsigen i gael egni o'i bwyd drwy resbiradu. Mae'r broses hon yn cymryd ocsigen o'r atmosffer ac yn rhyddhau carbon deuocsid.
  • Hylosgiad 鈥 pryd bynnag mae defnydd organig, fel pren neu wair, yn llosgi, mae ocsigen yn adweithio 芒'r carbon a'r hydrogen yn y defnydd, gan ryddhau gwres a golau ar ffurf t芒n. Mae'r broses hon yn cymryd ocsigen o'r atmosffer ac yn rhyddhau carbon deuocsid.
  • Ffotosynthesis 鈥 mae planhigion yn defnyddio proses ffotosynthesis i gynhyrchu eu bwyd eu hunain ar ffurf glwcos. Mae'r broses hon yn defnyddio golau'r haul (felly dim ond yn ystod y dydd mae'n digwydd) i dynnu carbon deuocsid o'r atmosffer a rhyddhau ocsigen.

Yn y rhai miloedd o flynyddoedd diwethaf, mae'r tair proses hyn wedi bod yn gytbwys, gan gynnal lefelau ocsigen o gwmpas 21 y cant.

Cynnydd yn lefelau carbon deuocsid

Yn y tua can mlynedd diwethaf, mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at gynyddu lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • llosgi tanwydd ffosil 鈥 mae'r broses hon yn ychwanegu carbon deuocsid at yr atmosffer yn gyflymach nag mae ffotosynthesis yn gallu cael gwared ag ef
  • twf poblogaethau bodau dynol ac anifeiliaid 鈥 mae hyn wedi cynyddu cyfanswm lefel resbiradaeth, gan gynyddu lefelau carbon deuocsid
  • datgoedwigo 鈥 torri darnau mawr o goedwigoedd a choedwigoedd glaw i gael adnoddau fel pren ac i ddefnyddio'r tir fel tir fferm, sy'n golygu bydd llai o ffotosynthesis yn digwydd ac felly bydd llai o garbon deuocsid yn cael ei dynnu o'r atmosffer

Mae'r cynnydd yn y lefelau carbon deuocsid oherwydd y ffactorau hyn wedi cael ei gysylltu 芒'r cynnydd yn y tymheredd byd-eang, effaith o'r enw .

More guides on this topic