成人快手

Creadigedd ac arloesiMeddwl awyr las

Mae codi ymwybyddiaeth yn ymwneud 芒 meddwl am syniadau creadigol. Gall technegau fel mapiau meddwl, meddwl awyr las a鈥檙 dechneg chwe het fod yn ddefnyddiol er mwyn dewis syniad i鈥檞 ddatblygu.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Meddwl awyr las

Mae'n bwysig ceisio cynhyrchu cynifer o syniadau ag sy鈥檔 bosibl mewn sesiwn syniadau. Fel rhan o鈥檙 dechneg meddwl awyr las, mae gr诺p o bobl yn edrych ar gyfle o鈥檙 newydd. Efallai bydd y gr诺p yn penderfynu ysgrifennu syniadau pawb ar ddarn o bapur neu siart troi.

Neu efallai bydd pobl yn ysgrifennu cynifer o syniadau ag y gallan nhw feddwl amdanyn nhw ar bapurau bach glynu er mwyn eu harddangos ar wal.

Er enghraifft, mewn sesiwn syniadau ar sut i wneud elw i鈥檙 ysgol yn ystod gwyliau'r haf, efallai byddai disgyblion yn cynnal sesiwn meddwl awyr las er mwyn gallu rhestru nifer o syniadau amrywiol.

Bwrdd gwyn 芒'r teitl Syniadau ar gyfer yr Haf. O dan y pennawd mae naw syniad wedi eu nodi mewn llawysgrifen gwahanol.

Enghraifft bywyd go iawn

Yn 1975, cafodd Americanwr o鈥檙 enw Gary Dahl syniad unigryw yngl欧n 芒 ffordd o wneud arian. Prynodd gerrig o iard adeiladu a鈥檜 rhoi mewn bocsys gyda thyllau anadlu ynddyn nhw. Galwodd y cerrig yn Pet Rocks. Gwerthodd y cerrig am $3.95 yr un, ac ar 么l chwe mis roedd wedi gwerthu 1.5 miliwn ohonynt, gan wneud miliynau o ddoleri o elw.

Llun agos o gerrig crwn a llyfn o liwiau amrywiol
Image caption,
Defnyddiodd yr entrepreneur Gary Dahl dechneg meddwl awyr las a gwnaeth filiynau o ddoleri gyda鈥檌 syniad unigryw