Posteri ac arddangosiadau gweledol
Cyn cynllunio poster neu arddangosiad gweledol, dylid ystyried y cwestiynau a ganlyn yn ofalus.
- Pwy yn union yw鈥檙 gynulleidfa?
- Ble dylai鈥檙 poster gael ei arddangos er mwyn dal sylw'r gynulleidfa?
- Beth yw'r neges mae angen ei chyfleu?
Yn aml mae trefnwyr ymgyrchoedd yn defnyddio amryw o bosteri i dargedu gwahanol gynulleidfaoedd. Gallan nhw hefyd ddefnyddio delweddau amrywiol mewn gwahanol fathau o gyfryngau.
Serch hynny, er bydd y neges wastad yn debyg, mae'n bosibl bydd y delweddau a'r testun ysgrifenedig yn wahanol. Er enghraifft, mae'n debygol byddai llai o destun mewn poster ar gefn bws na mewn hysbyseb mewn cylchgrawn.
Mae hyn oherwydd bydd gan bobl mwy o amser i ddarllen gwybodaeth mewn cylchgrawn. Ar y llaw arall, bydd angen deall y neges ar fws yn sydyn iawn, oherwydd bydd y bws yn symud ac felly yn mynd o鈥檙 golwg yn fuan.
Enghraifft bywyd go iawn
Yn Ionawr 2016, lansiodd Awdurdod Gwastraff Gogledd Llundain (NLWA) ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wastraff bwyd. Enw鈥檙 ymgyrch oedd Wise Up To Waste, a鈥檌 nod oedd helpu i leihau ac atal gwastraff bwyd. Defnyddiodd NLWA bosteri hysbysfyrddau amrywiol er mwyn annog pobl i feddwl sut i gynllunio, siopa a choginio鈥檔 effeithlon yn eu bywydau bob dydd.