成人快手

Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDeall meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae鈥檔 bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Deall meddwl yn feirniadol a datrys problemau

Mae gallu meddwl yn feirniadol a datrys problemau yn bwysig iawn.

Mae鈥檙 rhain yn , hynny yw mae modd eu trosglwyddo i wahanol sefyllfaoedd 鈥 yn yr ysgol, yn y gweithle neu mewn profiadau bywyd o ddydd i ddydd.

Meddwl yn feirniadol

Mae meddwl yn feirniadol yn golygu dy fod yn cwestiynu'r wybodaeth rwyt ti鈥檔 ei chlywed neu鈥檔 ei darllen, yn hytrach na鈥檌 derbyn yn ddi-gwestiwn. Mae meddwl yn feirniadol yn dy helpu i weld safbwyntiau gwahanol a llunio dadleuon, yn ogystal 芒 gwerthuso dadleuon sy鈥檔 cael eu cyflwyno gan bobl eraill.

Datrys problemau

Mae datrys problemau yn ymwneud 芒 defnyddio a dychymyg i wneud synnwyr o sefyllfa a chynnig ateb deallus.

Gallwn feddwl am ddatrys problemau fel proses.

Siart 芒 chamau datrys problemau; 1. Adnabod problem 2. Casglu gwybodaeth 3. Penderfynu beth yw'r achos 4.Nodi atebion posibl 5. Dewis yr ateb gorau 6. Cynllunio ateb 7. Rhoi ateb ar waith 8. Adolygu.
Nid drwy ystyried pa mor anodd yw鈥檙 broblem y mae mesur llwyddiant, ond drwy ystyried ai鈥檙 un broblem 芒鈥檙 un oedd gennych y llynedd yw hi.
John Foster Dulles, Cyn Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau

More guides on this topic