Dylanwadau cyfreithiol
Mae cyfreithiau yn disgrifio rheolau. Mae rheolau'n cael eu gorfodi gan sefydliadau fel yr heddlu, sy鈥檔 gwneud yn si诺r fod y rheolau鈥檔 cael eu dilyn. Os nad yw鈥檙 rheolau鈥檔 cael eu dilyn, bydd yr heddlu鈥檔 ymyrryd, ac mae鈥檔 bosibl bydd rhywun sy鈥檔 torri鈥檙 rheolau yn cael ei arestio.
Mae鈥檙 amgylchedd cyfreithiol yn newid ar hyd yr adeg, wrth i鈥檙 llywodraeth gyflwyno deddfau newydd drwy鈥檙 senedd. Mae鈥檙 deddfau hyn yn effeithio ar unigolion a sefydliadau drwy wneud pethau penodol yn anghyfreithlon neu鈥檔 gyfreithlon, neu drwy ddweud bod angen gwneud rhywbeth mewn ffordd benodol.
Enghraifft bywyd go iawn
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i godi t芒l am fagiau plastig mewn siopau.
Oherwydd bod y cynllun wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru, mae Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban hefyd wedi penderfynu codi t芒l am fagiau plastig. Mae hyn wedi newid y ffordd mae unigolion yn ymddwyn. Erbyn hyn mae pobl yn fwy tebygol o ailddefnyddio bagiau plastig.
Mae鈥檙 llywodraeth yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn arwain at y manteision a ganlyn yn ystod y deng mlynedd nesaf:
- cyfrannu dros 拢780 miliwn i economi鈥檙 Deyrnas Unedig
- arbed 拢60 miliwn mewn costau clirio sbwriel
- gwerth 拢13 miliwn o arbedion carbon