Sut mae mesur datblygiad cymdeithasol?
Mae llawer o ddangosyddion posibl i’w hystyried wrth fesur datblygiad cymdeithasol. Dau ddangosydd dibynadwy sy’n creu darlun i ddangos pa mor ddatblygedig yw gwlad o safbwynt cymdeithasol yw disgwyliad oes (iechyd) a chyfradd llythrennedd oedolion (addysg). Gallwn ddefnyddio’r ffigurau hyn i ffurfio llawer o gasgliadau, ac i fesur cynnydd dros gyfnod.
Er enghraifft, yn Ne Affrica roedd y ganran o’r boblogaeth nad oedd wedi cael addysg ffurfiol yn 19.1 yn 1996, ond roedd wedi gostwng i 8.7 y cant yn 2011. Mae hyn yn awgrymu bod mwy o blant yn cael addysg yn Ne Affrica.
Wrth asesu datblygiad cymdeithasol rhaid i ni hefyd ystyried rhywedd mewn achosion lle mae gwahaniaethau mawr yn aml.
Defnyddio data i fesur datblygiad
Ym maes daearyddiaeth, mae’n bosibl cyflwyno ystod o ddata cyfoesRhywbeth modern neu o’r presennol. a hanesyddol mewn nifer o ffyrdd. Yn aml iawn, mae mapiau, graffiau a thablau gwybodaeth yn cael eu cyflwyno i gael eu dadansoddi.
Defnyddio mapiau
Mapiau wedi eu lliwio yw mapiau coropleth. Maen nhw’n dangos gwerthoedd amrywiol, ac maen nhw’n ddefnyddiol iawn wrth astudio daearyddiaeth. Mae’r map o India yn dangos disgwyliad oes cyfartalog yn 2016 mewn gwahanol rannau o India. Y rhanbarthau tywyll yw’r rhai sydd â’r disgwyliad oes mwyaf, a’r lliwiau goleuach yw’r rhanbarthau sydd â’r disgwyliad oes lleiaf.
Tablau gwybodaeth
Mae tabl gwybodaeth hefyd yn caniatáu i ni ffurfio casgliadau ynglŷn â pha mor ddatblygedig yw gwlad. Mae’r tablau yn dangos mesur arall o iechyd a all fod yn ddefnyddiol – cyfradd marwolaethau babanod (CMB)CMB ydy nifer y babanod sy’n marw cyn eu pen-blwydd yn 5 oed fesul 1000 o gyfanswm y boblogaeth.. Mae pob gwlad wedi llwyddo i leihau nifer y plant sy’n marw cyn eu pen-blwydd cyntaf. Er hyn, mae’r tablau hefyd yn dangos bod y ffigurau ar gyfer gwledydd Affrica is-SaharaRhanbarth o Affrica yw hon sy’n ymestyn o ddifeithdir y Sahara tua’r de. Yn ôl y CU mae 46 o’r 54 gwlad yn Affrica yn rhan o Affrica is-Sahara. yn llawer uwch na’r ffigurau ar gyfer gwledydd De Asia, sy’n awgrymu bod Affrica Is -Sahara yn dal yn llai datblygedig na De Asia.
1985 | 1995 | 2005 | 2015 | |
Gambia | 91 | 71 | 57 | 48 |
Kenya | 63 | 72 | 54 | 36 |
Mali | 144 | 125 | 97 | 75 |
Malawi | 147 | 122 | 71 | 43 |
Gambia | |
1985 | 91 |
1995 | 71 |
2005 | 57 |
2015 | 48 |
Kenya | |
1985 | 63 |
1995 | 72 |
2005 | 54 |
2015 | 36 |
Mali | |
1985 | 144 |
1995 | 125 |
2005 | 97 |
2015 | 75 |
Malawi | |
1985 | 147 |
1995 | 122 |
2005 | 71 |
2015 | 43 |
1985 | 1995 | 2005 | 2015 | |
Bangladesh | 118 | 81 | 51 | 31 |
India | 101 | 78 | 56 | 38 |
Pakistan | 115 | 97 | 80 | 66 |
Sri Lanka | 25 | 17 | 12 | 8 |
Bangladesh | |
1985 | 118 |
1995 | 81 |
2005 | 51 |
2015 | 31 |
India | |
1985 | 101 |
1995 | 78 |
2005 | 56 |
2015 | 38 |
Pakistan | |
1985 | 115 |
1995 | 97 |
2005 | 80 |
2015 | 66 |
Sri Lanka | |
1985 | 25 |
1995 | 17 |
2005 | 12 |
2015 | 8 |
Defnyddio graffiau
Gall graffiau fod yn syml ac yn gymhleth, ond yn wahanol i dabl maen nhw’n gallu darparu perthynas weledol syml rhwng gwahanol ddangosyddion datblygiad. Mae’r graff gwasgariad isod yn dangos y berthynas rhwng disgwyliad oes (iechyd) ac incwm y pen (cyfoeth) ym mhob gwlad yn y byd. Mae’r graff hwn yn dangos tuedd neu batrwm. Yn gyffredinol, po fwyaf yw’r incwm, po fwyaf yw’r disgwyliad oes. Mae yna hefyd anghysondebCanlyniad sydd yn anarferol neu’n annisgwyl. yn y data, ee mae disgwyliad oes De Affrica yn llawer llai na’r disgwyl ac nid yw’n gyson â’r duedd.