Y gwahaniaeth rhwng datblygiad a datblygiad cymdeithasol
Mae datblygiad yn golygu ‘newid’. Yn aml iawn, y ffordd orau o fesur datblygiad yw drwy ddefnyddio cyfoeth fel dangosyddFfigyrau/ystadegau sy’n dangos pa mor ddatblygedig yw gwlad, er enghraifft mae disgwyliad oes yn ddangosydd sy’n danogs pa mor hir mae pobl yn byw ar gyfartaledd mewn gwlad arbennig.. Mae’n bosibl cymharu cyfoeth gwledydd drwy ddefnyddio dangosydd economaiddMae dangosyddion economaidd yn cyfeirio at arian, swyddi a statws economaidd gwlad., er enghraifft cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC). Yn 2016, yn ôl y Cenhedloedd Unedig (CU), UDA oedd y wlad fwyaf cyfoethog yn y byd.
Nid yw datblygiad cymdeithasol mor hawdd i’w fesur, oherwydd yn lle defnyddio dangosyddion economaidd, sy’n aml yn ddibynadwy, ac sy’n rhoi gwybodaeth i ni am gyflwr economi gwlad, mae mesur datblygiad cymdeithasol yn asesu pa mor ddatblygedig yw bywydau pobl mewn gwlad neu ranbarth. Nid yw’r ffaith fod gan wlad CMCCMC (Cynnyrch Mewnwladol Crynswth) yw’r dull o fesur gwerth yr holl wasanaethau a nwyddau terfynol sy'n cael eu cynhyrchu mewn gwlad yn ystod cyfnod penodol. mawr yn golygu bod pawb sy’n byw yn y wlad honno yn gyfoethog. Mae’n bosibl y bydd tlodiMae Banc y Byd yn diffinio tlodi eithafol fel byw ar lai na $1.90 y pen y dydd. (Ffigwr yn gywir ym mis Mehefin 2021) mawr mewn rhai rhanbarthau, neu na fydd pawb yn gallu cael mynediad at addysg yno. Dyma pam y mae’n bwysig bod daearyddwyr yn deall datblygiad cymdeithasol.
Ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad
Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygiad gwlad yn gallu bod yn gymhleth. Mae yna ffactorau cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol ac economaidd. Mae deall y rhesymau hyn, a beth sy’n achosi i wlad fod yn dlawd, hefyd yn ffordd o helpu’r wlad i ddatblygu.