Materion datblygiad cymdeithasol
Mesur datblygiad cymdeithasol – CBAC
Mae datblygiad cymdeithasol yn cyfeirio at y ffordd y mae cymdeithas yn newid. Mae daearyddwyr bob amser eisiau gwybod a yw bywydau pobl yn newid, sut maen nhw’n newid ac a yw’r newid hwn er gwell. Mae datblygiad yn raddfa continwwm sy’n ddynamig ac yn newid o hyd. Gall gwledydd a phobl fod wedi cyrraedd camau gwahanol yn y continwwm datblygiad.