˿

Daioni, drygioni a dioddefaintAstudiaeth achos – Eva Clarke

Mae gan bob crefydd ei ffordd ei hun o esbonio dioddefaint pobl a'r cysyniad o ddrygioni. Mae llawer o Iddewon yn credu bod drygioni yn tarddu o bechod cyntaf Adda ac Efa yng Ngardd Eden.

Part of Astudiaethau CrefyddolDaioni a drygioni - Uned 1

Astudiaeth achos – Eva Clarke

Un o oroeswyr yr yw Eva Clarke a ddaeth i fyw yng Nghaerdydd tan ei bod yn 18 mlwydd oed.

Roedd rhieni Eva wedi cael eu hanfon i yn Auschwitz, lle saethwyd ei thad yn farw. Arbedwyd ei mam, Anka Bergman, oedd yn feichiog gydag Eva ar y pryd, a chafodd ei hanfon ar daith drên 17 diwrnod i wersyll crynhoi arall heb ddim bwyd na fawr ddim dŵr.

Yn fuan wedi’r daith drên, rhoddodd Anka enedigaeth i Eva yn y gwersyll crynhoi yn Mauthausen. Dim ond 32 kg oedd pwysau Anka erbyn hyn, a dim ond 1.5 kg oedd pwysau Eva pan gafodd ei geni.

Yn 2017, ymwelodd Eva Clarke i siarad am y profiadau hyn.

Pan fydd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn mynd i ysgolion, yr hyn rydym yn ceisio’i wneud yw nid yn unig cofio a choffáu’r holl bobl hynny a fu farw, ond ceisio dysgu gwersi’r Holocost.
Eva Clarke

Diwrnod Coffáu’r Holocost

Diwrnod cenedlaethol yw Diwrnod Coffáu’r Holocost a gedwir bob blwyddyn ar 27 Ionawr. Mae’n adeg i bobl gofio’r rhai a ddioddefodd ac a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost.

Yn 2017, siaradodd Eva Clarke yn y gwasanaeth ar Ddiwrnod Coffáu’r Holocost a gynhaliwyd yn Neuadd Dinas Caerdydd. Roedd dros 500 o bobl yno i wrando ar ei stori.

More guides on this topic