Beth mae Iddewiaeth yn ei ddweud am darddiad drygioni?
Mae llawer o Iddewon yn credu bod drygioni鈥檔 tarddu o pechodY weithred o wrthryfela neu anufuddhau yn erbyn ewyllys Duw mewn Iddewiaeth, Cristnogaeth neu Islam. cyntaf Adda ac EfaY bodau dynol cyntaf yn 么l y traddodiadau Iddewig-Gristnogol ac Islamaidd.. Temtiodd y sarffNeidr fawr sy'n symbol o Satan yn y Beibl. Efa i fwyta o Pren GwybodaethCoeden yng ngardd Eden. Bu Adda ac Efa yn bwyta ohoni, er bod Duw wedi eu gwahardd rhag gwneud hynny. yn erbyn dymuniadau Duw. Wedyn daeth drygioni鈥檔 rhan ohonynt, a doedd arnyn nhw ddim angen temtasiwn allanol mwyach i bechu. Dioddefodd bodau dynol am eu bod yn anufudd, ac felly cawsant eu gwahanu oddi wrth Dduw.
Mae rhai Iddewon yn credu nad yw SatanEnw ar y diafol. yn fod ar wah芒n. Iddyn nhw, tuedd yw Satan sy鈥檔 bodoli ym mhob bod dynol sy鈥檔 eu temtio i wneud drygioni.
Mae Iddewon yn credu y dylen nhw dderbyn daioni a drygioni i mewn i鈥檞 bywydau, gan fod y ddau wedi鈥檜 rhoi gan Dduw ac felly bod pwrpas iddyn nhw.
Er bod Duw wedi rhoi ewyllys ryddY gallu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes unrhyw beth wedi'i ragordeinio. i fodau dynol, maen nhw鈥檔 credu y c芒nt eu cosbi am gyflawni drygioni trwy farwolaeth a dinistr. Ond c芒nt eu gwobrwyo am wrthsefyll temtasiwn drwy warchodaeth a ffyniant.