Duw a chelfyddyd
Ystyr y term 鈥榚ilunaddoliaeth鈥 yw addoli delwedd neu wrthrych sydd wedi鈥檌 greu, ac mae hyn yn cael ei ystyried yn bechod mawr mewn Iddewiaeth. Am y rheswm hwn, dydy Duw byth yn cael ei gyfleu mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, ac yn wahanol i nifer o grefyddau eraill, dydy delweddau na cherfluniau o Dduw byth i'w gweld mewn unrhyw synagog neu addoldy Iddewig.
Daw鈥檙 ddeddf hon mewn Iddewiaeth o鈥檙 ail o鈥檙 Deg Gorchymyn.
D-w
I lawer o Iddewon, mae Duw mor bwysig fel bod rhaid cymryd pwyll wrth ddefnyddio鈥檌 enw. Mae enw Duw鈥檔 sanctaidd neu鈥檔 gysegredig, nid yn bydolRhywbeth sydd ddim yn sanctaidd, hynny yw rhywbeth seciwlar., ac felly mae鈥檔 wahanol i unrhyw air arall. Defnyddir y gair Duw mewn iaith bob dydd ond i lawer o Iddewon mae鈥檙 enw Duw ymhell o fod yn gyffredin.
Bydd llawer o Iddewon yn ysgrifennu D-w, gan hepgor un llythyren. Gwn芒nt hyn rhag ofn i鈥檙 papur y mae wedi鈥檌 ysgrifennu arno gael ei niweidio neu ei drin yn amharchus. Mae enw Duw mor sanctaidd i lawer o Iddewon fel na wn芒nt ddweud nac ysgrifennu ei enw ond mewn gweddiCyfathrebu 芒 Duw. Ffordd o ddatblygu perthynas bersonol 芒 Duw. ac yn sgroliau鈥檙 Torah.