成人快手

Y gwahaniaeth rhwng 'yn' traethiadol a'r arddodiad 'yn'

Fel arfer daw enw cyn 'yn' traethiadol ac ansoddair sy'n ei ddilyn. Treiglad meddal sy'n dilyn 'yn' traethiadol:

  • mae Rhys yn ddyn lwcus iawn
  • mae Eleri'n ferch arbennig

a beth am yr arddodiad 'yn' sef in yn Saesneg? Cofia taw treiglad trwynol sy'n dilyn hwn:

  • yng Nghaernarfon
  • ym Mhontyberem
  • yn Nhresaith
  • yng Nghorsgoch
  • ym Mangor
  • yn Nolau Cothi

Edrycha ar y brawddegau isod. Pam fod y gair 'llythyr' yn treiglo mewn un achos yn unig?

  • Ysgrifennaf lythyr
  • Rydw i'n ysgrifennu llythyr
  • Ysgrifennir llythyr

Mae gwrthrych berf gryno bersonol sef 'Ysgrifennaf' yn treiglo'n feddal.

Nid yw gwrthrych berf gwmpasog sef 'Rydw i'n ysgrifennu' yn treiglo o gwbl.

Nid yw gwrthrych berf amhersonol sef 'Ysgrifennir' yn treiglo o gwbl.

Gwrthrych y ferf a'r treiglad meddal

Question

Edrycha ar y brawddegau isod a noda'r camgymeriadau, yna ysgrifenna fersiwn gywir o'r darn.

Es i am tro heddiw i Penrhyncoch a ces i amser gwych yn cerdded yn cefn gwlad. Gwelson ni sawl barcud goch oedd yn cyffrous iawn. Daeth Wil gyda fi ac roedd ei car e'n gwneud synnau rhyfedd iawn wrth dringo'r mynydd. Roedd mam yn poeni ac eisiau i ni fynd 芒'i car hi yn lle.