Deall cenedl enwau
Os wyt ti'n cael trafferth penderfynu os yw gair yn wrywaidd neu'n fenywaidd, cofia fod enw benywaidd fel arfer (ag eithrio geiriau sy'n dechrau gyda 'll' neu 'rh') yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod:
- y
- yr
- 'r
Nid yw enw gwrywaidd yn treiglo ar 么l y fannod:
Benywaidd | Gwrywaidd |
y goeden | y car |
y ddynes | y dyn |
y fraich | y bachgen |
y ferch | y map |
Benywaidd | y goeden |
---|---|
Gwrywaidd | y car |
Benywaidd | y ddynes |
---|---|
Gwrywaidd | y dyn |
Benywaidd | y fraich |
---|---|
Gwrywaidd | y bachgen |
Benywaidd | y ferch |
---|---|
Gwrywaidd | y map |
Mae modd hefyd ddyfalu cenedl enw trwy edrych ar derfyniad gair, er enghraifft, mae enw benywaidd yn aml iawn yn gorffen gydag 'ach'.
Terfyniad | Enghraifft |
-ach | Cyfrinach |
-aeth | Tystiolaeth |
-as | Cymwynas |
-eb | Taleb |
-eg | Dameg |
-ell | Llinell |
-en | Coeden |
-es | Ysgrifenyddes |
-fa | Derbynfa |
-aeth | Tystiolaeth |
Terfyniad | -ach |
---|---|
Enghraifft | Cyfrinach |
Terfyniad | -aeth |
---|---|
Enghraifft | Tystiolaeth |
Terfyniad | -as |
---|---|
Enghraifft | Cymwynas |
Terfyniad | -eb |
---|---|
Enghraifft | Taleb |
Terfyniad | -eg |
---|---|
Enghraifft | Dameg |
Terfyniad | -ell |
---|---|
Enghraifft | Llinell |
Terfyniad | -en |
---|---|
Enghraifft | Coeden |
Terfyniad | -es |
---|---|
Enghraifft | Ysgrifenyddes |
Terfyniad | -fa |
---|---|
Enghraifft | Derbynfa |
Terfyniad | -aeth |
---|---|
Enghraifft | Tystiolaeth |
Cofia fod:
- yna eithriadau, ee bachgen, gwasanaeth, hiraeth, pennaeth
- ambell enw yn wrywaidd ac yn fenywaidd, ee amrywiaeth
- cenedl enwau'n gallu amrywio rhwng de Cymru a gogledd Cymru, ee cwpan, munud
Mae yna enwau gwrywaidd sydd 芒 therfyniadau amlwg hefyd fel y gwelir yn y tabl hwn.
Terfyniad | Enghraifft |
-adur | Cyfrifiadur |
-deb | Undeb |
-dod | Undod |
-der | Dewrder |
-had | Boddhad |
-iad | Dymuniad |
-iant | Llwyddiant |
-rwydd | Euogrwydd |
-yn | Plentyn |
Terfyniad | -adur |
---|---|
Enghraifft | Cyfrifiadur |
Terfyniad | -deb |
---|---|
Enghraifft | Undeb |
Terfyniad | -dod |
---|---|
Enghraifft | Undod |
Terfyniad | -der |
---|---|
Enghraifft | Dewrder |
Terfyniad | -had |
---|---|
Enghraifft | Boddhad |
Terfyniad | -iad |
---|---|
Enghraifft | Dymuniad |
Terfyniad | -iant |
---|---|
Enghraifft | Llwyddiant |
Terfyniad | -rwydd |
---|---|
Enghraifft | Euogrwydd |
Terfyniad | -yn |
---|---|
Enghraifft | Plentyn |
Ymarfer
Question
Dewisa genedl enw'r geiriau canlynol:
Gair | Cenedl |
Holiadur | |
Deiseb | |
Anhawster | |
Eglurhad | |
Esblygiad | |
Senstifrwydd | |
Cymwynas | |
Llythyr | |
Llwy | |
Campfa | |
Amrywiaeth |
Gair | Holiadur |
---|---|
Cenedl |
Gair | Deiseb |
---|---|
Cenedl |
Gair | Anhawster |
---|---|
Cenedl |
Gair | Eglurhad |
---|---|
Cenedl |
Gair | Esblygiad |
---|---|
Cenedl |
Gair | Senstifrwydd |
---|---|
Cenedl |
Gair | Cymwynas |
---|---|
Cenedl |
Gair | Llythyr |
---|---|
Cenedl |
Gair | Llwy |
---|---|
Cenedl |
Gair | Campfa |
---|---|
Cenedl |
Gair | Amrywiaeth |
---|---|
Cenedl |
Gair | Cenedl |
Holiadur | Gwrywaidd |
Deiseb | Benywaidd |
Anhawster | Gwrywaidd |
Eglurhad | Gwrywaidd |
Esblygiad | Gwrywaidd |
Sensitifrwydd | Gwrywaidd |
Cymwynas | Benywaidd |
Llythyr | Gwrywaidd |
Llwy | Benywaidd |
Campfa | Benywaidd |
Amrywiaeth | Gwrywaidd/Benywaidd |
Gair | Holiadur |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Deiseb |
---|---|
Cenedl | Benywaidd |
Gair | Anhawster |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Eglurhad |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Esblygiad |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Sensitifrwydd |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Cymwynas |
---|---|
Cenedl | Benywaidd |
Gair | Llythyr |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd |
Gair | Llwy |
---|---|
Cenedl | Benywaidd |
Gair | Campfa |
---|---|
Cenedl | Benywaidd |
Gair | Amrywiaeth |
---|---|
Cenedl | Gwrywaidd/Benywaidd |