Idiomau Cymraeg ochr yn ochr ag idiomau Saesneg
Cymraeg | Saesneg |
Ail-law | Second hand |
Ar ei ben ei hun | On his own |
Arllwys y glaw | Pouring down |
Ar ei golled | Losing out |
Crynu yn ei esgidiau | Shaking in his boots |
Dim hanner call | Not all there |
Cymraeg | Ail-law |
---|---|
Saesneg | Second hand |
Cymraeg | Ar ei ben ei hun |
---|---|
Saesneg | On his own |
Cymraeg | Arllwys y glaw |
---|---|
Saesneg | Pouring down |
Cymraeg | Ar ei golled |
---|---|
Saesneg | Losing out |
Cymraeg | Crynu yn ei esgidiau |
---|---|
Saesneg | Shaking in his boots |
Cymraeg | Dim hanner call |
---|---|
Saesneg | Not all there |
Ymarfer
Question
Sut gellir gwella'r brawddegau canlynol? Noda'r defnydd anghywir o idiomau neu gystrawennau Saesneg.
- Mae chwaer Ffion yn llawer mwy da na hi am nofio.
- Bwytaodd Elliw mor gymaint o fwyd nes ei bod hi'n teimlo'n s芒l.
- Roedd Huw yn llawn nerfau wrth aros am ganlyniad y prawf gyrru.
- Mae'r Wyddfa yn fwy uchel na mynydd uchaf Lloegr.
- Mae gan Twm gar mwy mawr na char Jac.
- Roedd Llio wedi llwyddo i blygu'r papur yn lleiach ac yn lleiach.
- Mae Pobol y Cwm yn mwy gwell nag EastEnders.
- Mae Angharad wedi sortio allan y broblem.
- Mae chwaer Ffion yn llawer gwell na hi am nofio.
- Bwytaodd Elliw gymaint o fwyd nes ei bod hi'n teimlo'n s芒l.
- Roedd Huw ar bigau'r drain wrth aros am ganlyniad y prawf gyrru.
- Mae'r Wyddfa yn uwch na mynydd uchaf Lloegr.
- Mae gan Twm gar mwy na char Jac.
- Roedd Llio wedi llwyddo i blygu'r papur yn llai ac yn llai.
- Mae Pobol y Cwm yn well nag EastEnders.
- Mae Angharad wedi datrys y broblem.