Treigladau a chenedl enwau
Fel yr ydyn ni'n gwybod, mae treiglad meddal yn dilyn y fannod:
- y
- yr
- 'r
Ond mae yna reolau eraill hefyd am dreiglo.
- Enwau benywaidd unigol yn treiglo'n feddal ar 么l y gair 'un', ee un gadair (ag eithrio geiriau sy'n dechrau gyda 'll' neu 'rh').
- Enw gwrywaidd yn treiglo'n feddal ar 么l y gair 'dau', ee dau gi.
- Enw benywaidd yn treiglo'n feddal ar 么l y gair 'dwy', ee dwy gath.
- Enw gwrywaidd yn treiglo'n llaes ar 么l 'tri', ee tri pheth.
- Angen defnyddio'r ffurf 'tair' o flaen enw benywaidd, ee tair gwraig.
- Angen denfyddio 'pedwar' o flaen enw gwrywaidd, ee pedwar dyn ond 'pedair' o flaen enw benywaidd, ee pedair i芒r.
Ymarfer
Question
Edrycha ar y brawddegau isod a phenderfyna pa rai sy'n gywir a pha rai sy'n anghywir.
- Dywedodd Siriol fod ganddi ddau gyfrinach i'w rhannu.
- Darllen y linell gyntaf.
- Mae gennyf dau gath a dwy gi.
- Mae ganddi ddau blentyn.
- Dim ond un goeden afalau sydd yn yr ardd.
- Dere 芒 thri peth gyda thi.
- Dywedodd Siriol fod ganddi ddwy gyfrinach i'w rhannu.
- Darllen y llinell gyntaf.
- Mae gennyf ddwy gath a dau gi.
- Mae ganddi ddau blentyn. (Cywir)
- Dim ond un goeden afalau sydd yn yr ardd. (Cywir)
- Dere 芒 thri pheth gyda thi.