成人快手

Defnyddio iaith - treigladauArddodiaid sy'n achosi treigladau meddal

Mae deall rheolau treiglo'n medru bod yn anodd. Cofia fod treigladau meddal, trwynol a llaes yn dilyn rheolau gwahanol ac mae arddodiaid, enwau benywaidd a gwrywaidd yn eu heffeithio hefyd.

Part of CymraegGramadeg

Arddodiaid sy'n achosi treigladau meddal

Cofia fod treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid hyn:

  • am, ar, at, gan, dros, drwy, wrth, dan, heb, hyd, i, o

Dyma enghreifftiau o frawddegau sydd 芒 mwy nag un treiglad meddal ynddynt:

  • Es i i'r gwely am ddeg o'r gloch neithiwr gan obeithio cael noson o gwsg.
  • Dw i ar bigau'r drain i wybod canlyniad yr arholiad.
  • Danfonais i ebost at gyfaill yn s么n am lyfr gwych.

Mae treiglad meddal hefyd yn dilyn 'ei' gwrywaidd. Er enghraifft: Cafodd y dyn ei gyhuddo ar gam.

Ond treiglad llaes sy'n dilyn 'ei' benywaidd: Cafodd y wraig ei chyhuddo ar gam.

Cofia hefyd fod gair benywaidd, ee 'cath' yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod 'y':

  • y gath
  • yr ardd
  • y faneg
  • y fenyw
  • y ddafad

Ond nid yw ll a rh yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod mewn enw benywaidd unigol, ee 'y llyfrgell', 'y rhaw'.

Ac nid yw gair gwrywaidd, ee 'ci' yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod 'y': y ci, y dyn, y mwnci, y bwrdd.

Cofia nad yw geiriau lluosog yn treiglo ar 么l y fannod 'y' chwaith: y cariadon, y papurau, y gwragedd.

Question

Cywira'r gwallau yn y rhestr isod.

AnghywirCywir
Y gardd
Y menyw
Y ddyn
Y lyfr
Y gi
Y draenen
Y fwrdd
Y gwraig
Y goed
Y gadeiriau
AnghywirY gardd
Cywir
AnghywirY menyw
Cywir
AnghywirY ddyn
Cywir
AnghywirY lyfr
Cywir
AnghywirY gi
Cywir
AnghywirY draenen
Cywir
AnghywirY fwrdd
Cywir
AnghywirY gwraig
Cywir
AnghywirY goed
Cywir
AnghywirY gadeiriau
Cywir