Putsch Munich 1923
Ar noson 8 Tachwedd 1923, rhuthrodd Hitler a 600 o gyrchfilwyr i mewn i gyfarfod yr oedd Kahr a Lossow鈥檔 ei gynnal yn y Neuadd Gwrw leol. Gan chwifio gwn atynt, gorfododd Hitler nhw i gytuno i wrthryfela 鈥 ac wedyn gadawodd iddynt fynd adref. Cymerodd yr SA reolaeth dros bencadlys y fyddin a swyddfeydd y papur newydd lleol.
Drannoeth, 9 Tachwedd 1923, aeth Hitler a鈥檌 Nats茂aid i mewn i Munich ar yr hyn roeddent wedi credu fyddai鈥檔 orymdaith fuddugoliaethus i gipio grym. Ond roedd Kahr wedi galw heddlu a milwyr atgyfnerthol i mewn. Cafwyd sgarmes fer lle lladdodd yr heddlu 16 o Nats茂aid. Dihangodd Hitler, ond cafodd ei arestio ddeuddydd yn ddiweddarach.
Pam y rhoddodd Hitler gynnig ar Putsch ar Munich yn 1923?
- Erbyn 1923, roedd gan y blaid Nats茂aidd 55,000 o aelodau ac roedd yn gryfach nag erioed o鈥檙 blaen.
- Roedd Gweriniaeth Weimar mewn argyfwng, nid oedd ganddi fawr o gefnogaeth yn y wlad ac ar fin cwympo.
- Ym Medi 1923, roedd llywodraeth Weimar wedi rhoi terfyn ar y streic gyffredinol, ac roedd pob cenedlaetholwr Almaenig yn gandryll gyda鈥檙 llywodraeth.
- Roedd Hitler yn meddwl y c芒i help gan genedlaetholwyr pwysig yn Bavaria.
- Roedd gan Hitler fyddin enfawr o gyrchfilwyr, ond gwyddai y byddai鈥檔 colli rheolaeth arnynt pe na bai鈥檔 rhoi rhywbeth iddynt ei wneud.
- Roedd Hitler yn gobeithio cop茂o Mussolini 鈥 arweinydd ffasgaidd yr Eidal 鈥 a oedd wedi dod i rym yn yr Eidal yn 1922 trwy orymdeithio i mewn i Rufain.
Canlyniadau Putsch Munich
Methiant oedd Putsch Munich. O ganlyniad:
- Gwaharddwyd y blaid Nats茂aidd, a rhwystrwyd Hitler rhag siarad yn gyhoeddus tan 1927.
- Aeth Hitler i鈥檙 carchar, lle ysgrifennodd Mein Kampf. Darllenwyd hwn gan filiynau o Almaenwyr, a daeth syniadau Hitler yn hysbys iawn.
- Penderfynodd Hitler na fyddai fyth yn dod i rym drwy chwyldro. Sylweddolodd y byddai鈥檔 rhaid iddo ddefnyddio dulliau cyfansoddiadol, felly trefnodd:
- Ieuenctid Hitler
- ymgyrchoedd propaganda
- uno 芒 phleidiau adain dde eraill
- canghennau lleol o鈥檙 blaid, a geisiodd ethol Nats茂aid i鈥檙 Reichstag
- yr SS fel gwarchodwyr personol iddo, a sefydlwyd yn 1925
Y strategaeth hon o ennill grym yn gyfreithlon a ddaeth ag ef i rym yn y pen draw.